Cwrdd â WNO

Siân Cameron

Mae Siân Cameron yn raddedig o’r Royal Academy of Music ac Academi Llais Ryngwladol Cymru. Roedd yn artist ar gyfer Live Music Now am chwe blynedd ac mae’n ysgolor Britten-Pears, Gwobrwywyd Siân â Gwobr Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, a Gwobr Ymddiriedolaeth Fidelio, Gwobr John Lewis Award a Gwobr Warne (RAM). Bu’n gweithio gydag Opera Ieuenctid WNO ers dros 15 mlynedd. Fel unawdydd, bu’n canu mewn sawl rôl, gan gynnwys Sesto La clemenza di Tito (Teatru Manoel, Malta); Cherubino Le nozze di Figaro (Theatr Kilden, Norwy); Dorabella Così fan tutte (Opera Haf Dubrovnik); Yr Ail Foneddiges The Magic Flute (La fabrique opera, Ffrainc). Ar gyfer WNO, bu’n ddirprwy yn rolau Cherubino, Jade Boucher (Dead Man Walking) a Rychtárka (Jenůfa). Yr Haf ddiwethaf, fe berfformiodd rôl La Speranza yn L’Orfeo Monteverdi ar gyfer Longborough Festival Opera.