Newyddion

Sensro yn y Byd Opera

3 Hydref 2024

O gychwyn cyntaf y byd opera, mae rhai pobl wedi bod yn benderfynol o gyfyngu ar yr hyn a welwn ar y llwyfan – am resymau gwleidyddol, gan amlaf. Effeithiodd y sensoriaeth ddiwylliannol hon ar lu o gyfansoddwyr a libretwyr, a thros y blynyddoedd bu’n rhaid iddynt newid eu gweithiau’n sylweddol er mwyn gallu llwyfannu eu cynyrchiadau. Dyma rai o’r cyfansoddwyr yr effeithiodd sensoriaeth yn fawr arnynt yn ystod y broses gynhyrchu.


Lulu gan Berg

Cyfansoddodd Alban Berg ei opera Lulu yn Awstria yn nechrau’r 1930au, pan oedd gwrth-Semitiaeth a Natsïaeth ar gynnydd. Ym marn y Natsïaid, roedd cerddoriaeth ddigywair ac arbrofol Berg yn ‘ddirywiedig’, a chan fod yr opera hefyd yn darlunio gwaith rhyw, deurywioldeb a godineb, ni lwyddodd Berg i lwyfannu ei opera newydd yn yr Almaen nac yn Awstria. Yn hytrach, addasodd Berg rannau o’r opera a chreu darnau cyngherddol i’w perfformio yn y Berlin State Opera ym 1934 – gweithiau a feirniadwyd yn llym gan gyhoeddiadau lleol a chan yr awdurdodau.


Rigoletto gan Verdi

Tua chanol y 19eg ganrif, pan gyfansoddodd Verdi ei gampwaith Rigoletto, roedd awdurdodau mewn nifer o wledydd yn Ewrop yn bryderus iawn ynglŷn â’r bygythiad i’w sefydliadau gwleidyddol yn dilyn y chwyldro ym 1848. Seiliwyd Rigoletto ar ddrama gan Victor Hugo, sef Le roi s’amuse, ac roedd sensoriaid Fenis yn wrthwynebus iawn i’r modd y câi Brenin Ffrainc ei bortreadu fel cymeriad hynod anfoesol yn yr opera. Bu’n rhaid i Verdi gyflwyno nifer o newidiadau sylweddol i Rigoletto cyn y bu modd perfformio’r opera, yn cynnwys cael gwared â golygfa a oedd yn darlunio ymosodiad rhywiol a throi cymeriad y Brenin yn Ddug Mantua (sef dugiaeth a oedd wedi diflannu erbyn y cyfnod hwnnw).


La Cenerentolagan Rossini

Gorfodwyd Rossini i newid sawl peth yn ei opera La Cenerentola (1817), a oedd yn addasiad operatig o’r chwedl dylwyth teg Sinderela. Cyfansoddwyd yr opera ar gyfer Carnifal Rhufain a mynnodd sensoriaid y Pab gael gwared yn llwyr ar hud a lledrith y stori. Yn hytrach, ymgorfforodd Rossini a’i libretwr elfennau a ddeilliai o fersiynau gwahanol o stori Sinderela, yn cynnwys fersiynau gan y Brodyr Grimm a Charles Perrault; disodlwyd y Ddewines Garedig gan Alidoro yr athronydd, defnyddiwyd llysfam ddrwg yn hytrach na llystad creulon, a throwyd y sliper wydr yn freichled – yn rhannol gan fod pobl o’r farn y byddai ymddangos yn droednoeth ar y llwyfan yn rhy erotig i gynulleidfaoedd y cyfnod.


Dros y blynyddoedd, sensoriwyd cryn dipyn o weithiau Pierre Beaumarchais, dramodydd hynod herfeiddiol a oedd yn perthyn i’r Oes Oleuedig. Digwyddodd hyn yn achos ei ddrama The Marriage of Figaro, a addaswyd yn opera gan Mozart ym 1786. Roedd y ddrama’n ddadleuol gan ei bod yn darlunio gwrthdaro rhwng y dosbarthiadau. Bu’n rhaid i Lorenzo Da Ponte, libretwr Mozart, wanhau rhywfaint ar negeseuon gwleidyddol y ddrama er mwyn osgoi lach y sensoriaid, gan ddefnyddio cariad a maddeuant fel rhai o brif themâu’r opera, yn hytrach na chwyldro. Yn arbennig, cafwyd gwared â monolog Figaro a oedd yn beirniadu’r bendefigaeth, ac yn ei le defnyddiwyd aria a oedd yn lladd ar natur anwadal menywod.


Efallai fod sensro wedi newid straeon yr operâu hyn, ond peidiwch â phoeni – maent yn dal i fod yn llawn dop o gerddoriaeth gyfareddol a drama ddwys sy’n siŵr o greu chwip o sioe. Dewch draw i weld cynhyrchiad newydd sbon danlli WNO o Rigoletto yng Nghaerdydd, cyn i ni deithio i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton yr Hydref hwn. Hefyd, gallwch weld perfformiadau o The Marriage of Figaro yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025.