Cynhelir Diwrnod Aids y Byd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Fe'i sefydlwyd yn 1988, ac mae'r diwrnod hwn yn ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o AIDS ac i bobl ledled y byd uno yn y frwydr yn erbyn HIV. Gyda dros 105,000 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU ar hyn o bryd, mae ffigurau yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyson ers 2018. Fel rhan o gefnogaeth barhaus Opera Cenedlaethol Cymru i daith Caerdydd tuag at gyflawni dim trosglwyddiadau HIV erbyn 2030, rydym wedi cyfansoddi cân newydd sbon fel rhan o'n prosiect Tair Llythyren. Cawsom sgwrs gyda Mercy Shibemba, eiriolwr dros blant a phobl ifanc sy'n byw gyda HIV ac un o'r cyfansoddwyr y tu ôl i'r gân.
‘Gweithiais gydag Opera Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf y llynedd pan lansiwyd eu prosiect Tair Llythyren ar y cyd â Fast Track Caerdydd. Gan weithio ochr yn ochr â Nathaniel Hall (actor ac ymgyrchydd), Michael Betteridge (cyfansoddwr ac animateur), a Sian Cameron (canwr a hwylusydd), fe wnaethom gyflwyno amrywiaeth o weithdai yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Ymateb y myfyrwyr i'r sesiynau hyn a greodd y geiriau i'r gân gyntaf yn y llyfr caneuon, We learn, we know, we understand. Roedd hon yn ffordd hwyliog o ymgysylltu â’r myfyrwyr, codi ymwybyddiaeth a helpu i dorri’r stigma ynghylch HIV – sy’n rhwystr allweddol i brofi ac atal ar draws cymunedau yn y DU.
Eleni, rydym wedi ysgrifennu cân newydd sbon, a gyfansoddais gyda’r gantores gyfansoddwraig o Gymru Eädyth Crawford ac Intern Lleisiol WNO Aliyah Wiggins. Gan ein bod ni i gyd yn newydd i'n gilydd, roedd yn hawdd bod yn fregus ac yn wrthrychol. Mae celf a bywyd yn ddrychau i'w gilydd, a dwi'n meddwl ei bod hi'n anochel y bydd celf yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn bywyd go iawn.
Mae All these dreams yn seiliedig ar fy mhrofiadau fy hun. Mae'r brif neges yn ymwneud â dod o hyd i'ch llais a darganfod eich hun. Rwyf am i wrandawyr gofio bod byw eich breuddwydion a rhoi lle i'ch breuddwydion esblygu yn rhywbeth y dylem i gyd ei wneud. Mae amrywiaeth o ieithoedd gan gynnwys Cymraeg a Sbaeneg yn nodwedd, ynghyd â gwahanol ddiddordebau cerddorol, ysbrydoliaeth ac elfennau diwylliannol. Yn ystod y broses o gynhyrchu’r gân, treuliasom gryn dipyn o amser yn gwrando ar gerddoriaeth, a oedd yn cynnwys elfennau o bethau yr oeddem yn eu hoffi, ac roedd yn hynod o bwysig i mi gael yr elfennau hynny i mewn yno.
Un o'r geiriau sy'n aros yn fy meddwl yw ‘who are you racing?’ a oedd yn atgof i ni ein hunain a gobeithio i'r rhai sy'n gwrando bod pawb ar eu llinell amser a'u taith eu hunain ac nad oes raid i chi rasio neb.’
Cafodd All these dreams ei berfformiad cyhoeddus cyntaf yn ystod digwyddiad yn y Senedd, Bae Caerdydd ar ddydd Mercher 30 Tachwedd ac mae bellach ar gael i’w wrando ar Soundcloud.
I gael mynediad i adnoddau, gan gynnwys gwybodaeth am HIV, pecynnau prawf cartref am ddim a chynnwys y gellir ei lawrlwytho, ewch i wefan Fast Track Caerdydd