Newyddion

Comisiynu cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly

20 Awst 2021

Wrth i ymarferion ddechrau, ac wrth i opera fyw ddychwelyd, mae Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO Aidan Lang yn egluro'r broses feddwl y tu ôl i gomisiynu cynhyrchiad newydd o Madam Butterfly, a sicrhau ei fod yn berthnasol yn y byd sydd ohoni.

'Mae nifer o’r operâu mwyaf poblogaidd yn cynnwys gwirionedd anodd ynghylch ein dynoliaeth a’r gymdeithas y mae pobl yn byw ynddi. Mae’r angen i ailadrodd rhai darnau penodol o repertoire yn rhan annatod o waith cwmnïau opera, ond mae hynny’n gam peryglus. Mae ailadrodd yn creu sefyllfa sy’n llawer rhy gyfforddus a gall hynny wanio’r gwirionedd a amlygir yn y gwaith. Ymhellach, rydym yn buddsoddi’n sylweddol mewn cynhyrchiad newydd o opera, gyda’r gobaith y caiff ei adfywio yn y dyfodol, hyd yn oed os bydd mewnwelediadau’r cynhyrchiad yn gwanhau o un adfywiad i’r nesaf.

Wrth edrych ar elfennau sylfaenol unrhyw opera, mae’n cynnwys gwaith o adeiladu setiau o berthynas rhwng pobl - gweithred a deialog - gan ein gwahodd i roi barn ar hynny - i ganfod ystyr neu bwrpas y gwaith. Ond nid yw’r pwrpas hwnnw wedi ei saernïo mewn amser. Wrth i gymdeithas a’i gwerthoedd esblygu’n barhaus, felly hefyd bydd gweithrediadau’r opera’n cael eu dadansoddi, yn ôl safbwynt mwyafrifol cymdeithasol ein cyfnod. Ac felly daw adeg yng nghyfnod unrhyw gynhyrchiad pan ofynnwn gwestiwn pwysig i’n hunain: a yw’n cyffwrdd â chynulleidfa heddiw, neu a yw hi’n amser i edrych o’r newydd ar y gwaith gyda chynhyrchiad cwbl newydd?

Wrth i ni fynd ati i greu ein Madam Butterfly newydd, mae’n hawdd edrych yn ôl ar gynhyrchiad 43 mlynedd oed Joachim Herz yn rhy hael gan anghofio pa mor ddadleuol ydoedd ar y cychwyn, sef gwaith cynhyrchydd o ddwyrain yr Almaen yn pwysleisio neges wrth-imperialaidd y gwaith, ac yn sgil hynny, yr atgasedd tuag at gyfalafiaeth Americanaidd. Ond heddiw, mae’r darn yn creu ymateb gwahanol wrth i ni fyfyrio ar faterion o gynrychiolaeth ar y llwyfan mewn cymdeithas amlddiwylliannol gan edrych â’n llygaid yn agored ar wir natur egsbloitiaeth o’r cymeriad ganolig, gan adnabod cymariaethau rhwng ei thynged hi a nifer di-rif o fenywod ifanc heddiw.

Un elfen o operâu Puccini yw’r sylwebaeth emosiynol gref i’r weithred a ddarperir gan ei gerddoriaeth, a oedd yn ffasiynol mewn opera Eidalaidd yn ei gyfnod ef. Y nod bob amser yw creu gwaith sy’n rhoi cydbwysedd i’n cynulleidfaoedd rhwng meddwl ac emosiwn; ond mae hyn braidd yn anodd gyda Puccini, gan fod tynfa emosiynol ei gerddoriaeth mor gryf. Mae’n hawdd colli llinell stori gref a phryfociol Madam Butterfly o fewn llif hudolus y gerddoriaeth, felly nod ein cynhyrchiad yw adfer y cydbwysedd hwnnw. Nid pitïo dros dynged Butterfly yw ein hunig ymateb, ond hefyd gwylltineb yn erbyn y gymdeithas a greodd ei sefyllfa hi yn y lle cyntaf.

Ac nid yw edrych ar Madam Butterfly drwy lens gyfoes, mewn gwirionedd, yn ddim byd newydd; mae wedi digwydd erioed. Ystyriwch Così fan tutte gan Mozart, na chafodd ei pherfformio’n aml drwy gydol y 19eg ganrif oherwydd ei hanfarwoldeb tybiedig, drwy lygaid chwyrn a moesol y gynulleidfa Fictoraidd. Daeth yn ôl i’r amlwg yn yr 1930au, ond bellach caiff driniaeth gwbl wahanol yng ngoleuni #MeToo.

Mae Madam Butterfly yn codi cymaint o drafodaeth, ond mae’n amhosib i un cynhyrchiad gwmpasu pob un ohonynt. Rydym felly’n cynnal cyfres o drafodaethau panel i ategu’r cynhyrchiad, gan amlygu’r pynciau dan sylw a phrocio trafodaeth ddifyr a pharhaus.

Mae celf wedi denu barn gan gymdeithas o’r dechreuad, a rôl sefydliadau celf fel WNO yw sicrhau bod hynny’n parhau, yn enwedig pan fydd y gwaith a gyflwynir yn herio ein moesegau cymdeithasol.'