Newyddion

Cystadleuaeth Gyfansoddi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

16 Gorffennaf 2021

Mae pob un ohonom wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod yr 18 mis diwethaf, yn enwedig myfyrwyr - y genhedlaeth nesaf o gantorion, cerddorion, dylunwyr, coreograffwyr a chyfansoddwyr.

Rydyn ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn aml yn hyrwyddo'r cewri – Rossini, Puccini, Mozart, Verdi – ac yn comisiynu gweithiau newydd gan gyfansoddwyr megis Iain Bell, Elena Langer a Will Todd (i enwi ychydig), ond rydym hefyd yn ymfalchïo mewn cefnogi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr. Mae ein cynnig diweddaraf i fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru [RWCMD] yn un enghraifft.

Mewn ymgais i greu campweithiau cerddorol newydd a deinamig ar gyfer adran drombôn Cerddorfa WNO, lansiwyd cystadleuaeth i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn RWCMD i gyfansoddi darn partner 3-symudiad i Drei Equale für vier Posaunen gan Beethoven - detholiad o dri darn byr a gomisiynwyd yn Hydref 1812 fel cerddoriaeth twr ar Ddiwrnod yr Holl Eneidiau - a berfformiwyd gan Gerddorfa WNO a'i ddarlledu ochr yn ochr â Symffoni Rhif 1 Beethoven yn C Mwyaf a Symffoni Rhif 2 yn D Mwyaf ar BBC Radio 3 fel rhan o'u hwythnos yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2021.

Dewiswyd chwe chystadleuydd i fynd i'r rownd derfynol gan ein panel o feirniaid a oedd yn cynnwys cyn-fyfyriwr RWCMD ac Arweinydd Benywaidd Preswyl WNO, Tianyi Lu, Prif Chwaraewr yr Adran Trombôn Cerddorfa WNO, Roger Cutts, a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth RWCMD, Tim Rhys Evans.

Yn y rownd derfynol roedd Tomos Owen Jones (Three Equals for Trombone Quartet), Isaac Prince (Three Miniatures for Trombone Quartet), Jake Thorpe (By The Lakes Edge), Yasmin Browne (Piece for Trombone Quartett), Jared Destro (Olive Tree Hymn Op. 79) a George Owen (From The Last Cloister).

Gwahoddwyd pob cyfansoddwr i ymuno â'n ensemble trombôn - Roger Cutts, Christopher Augustine, Dafydd Thomas ac Alan Swain - ar gyfer gweithdy lle recordiwyd yr holl gyfansoddiadau. Gellir mwynhau pob cyfansoddiad ar ein sianel YouTube.

Wedi cryn drafod rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai’r enillydd, a gyda’i waith yn cael ei berfformio yn ystod ein Tymor 2021-2022, yw Tomos Owen Jones, myfyriwr Astudiaethau Lleisiol BMus yn RWCMD. Cyfansoddwyd ei waith, Three Equals for Trombone Quartet, i gwblhau taith harmonig gwaith Beethoven ac mae'n cynnwys gwreiddioldeb a fyddai'n cael ei werthfawrogi gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr lu. Llongyfarchiadau Tomos. Rhoddir canmoliaeth hefyd i Jake Thorpe, a bu i'w gyfansoddiad By The Lakes Edge swyno'r panelwyr. 

Three Equals for Trombone Quartet, Tomos Owen Jones