Cerddorfa WNO
Ffurfiwyd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn 1970. Ers hynny, mae hi wedi sefydlu ei hun fel un o’r cerddorfeydd gorau ym Mhrydain. Caiff ganmoliaeth fawr am ei rhagoriaeth mewn ystod eang o repertoire operatig, yn ogystal ag am ei Gwaith cyngerdd hynod amrywiol a’i phortffolio o recordiadau. Yn ogystal â’i chlych gwaith operatig sylweddol ar gyfer WNO, mae statws ac enw da’r Gerddorfa fel ensemble o safon fyd-eang i’w gweld yn ei rhan nodedig dros y blynyddoedd yng Nghyngherddau Caerdydd Glasurol Neuadd Dewi Sant, Proms Cymru, ac fel un o’r ddwy gerddorfeydd genedlaethol o Gymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC.