Newyddion

Ymateb y Gynulleidfa i Così fan tutte

12 Mawrth 2024

Atseiniodd sŵn chwerthin a chymeradwyaeth uchel drwy Theatr Donald Gordon wrth i gynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Così fan tutte  agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y penwythnos diwethaf. Yn y dehongliad newydd hwn o’r stori gomedi llawn cariad, ffyddlondeb, ac anhrefn y natur ddynol, gwelwyd ein cymeriadau yn mynychu’r Ysgol i Gariadon er mwyn profi eu perthnasoedd i’r eithaf.

Rydym yn hynod falch o dderbyn adborth mor gadarnhaol gan aelodau o’n cynulleidfaoedd. Dyma beth ddywedon nhw ar X:

Ar Facebook, fe ddywedon nhw:

Andrew Ab - Such a fun show. I laughed so much which I haven't really done with an opera before

Kath Thorne-Thomas - Fantastic performance! Congratulations

Nicola Hughes - Wonderful evening!

Janette Davidge - Fantastic first night.

Val Jones - Fabulous production    

Os ydych yn barod i fynd ar antur wyllt o gam-adnabyddiaeth a helyntion rhamantus, mae modd i chi weld Così fan tutte  yng Nghaerdydd tan 8 Mawrth, cyn y byddwn yn mynd â’r cynhyrchiad ar daith i Landudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham tan 10 Mai. Cofiwch gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu eich barn â ni!