Newyddion

Cyfnod hunan-ynysu creadigol

1 Mehefin 2020

Meddyliwch am y meistr cerddorol Andrew Lloyd Webber yn eistedd wrth ei biano yn ei gartref, wrth i'r byd addasu i fywyd gyda Coronafeirws. Wedi pendroni am hynny, bu i ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru feddwl am y cyfansoddwyr eraill sydd wedi ysgrifennu yn ystod cyfnodau o hunan-ynysu, boed yn hunanachosedig neu i'r gwrthwyneb... ac mae cryn dipyn wedi dod i'r amlwg.

Mae argyfyngau byd-eang blaenorol wedi arwain at nifer o gyfansoddiadau megis emyn o'r enw Stella celi, a ysgrifennwyd yn ystod y 1400au cynnar gan John Cooke, cyfansoddwr o Loegr, mewn ymateb i'r Pla Du. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith fod yna bandemig byd-eang yn golygu bod cyfansoddwr yn hunan-ynysu o reidrwydd, ac nid dyma'r unig reswm dros pam fod rhai o weithiau gorau'r byd wedi'u hysgrifennu tra mae'r cyfansoddwr yn cuddio oddi wrth y byd - mae'n well gan lawer o athrylithoedd cerddorol gyfansoddi yn ystod cyfnod o hunan-ynysu.

Roedd gan Mahler o leiaf dri chwt ar gyfer hunan-ynysu, ac roedd yn eu defnyddio wrth gyfansoddi, gan ddiflannu iddynt er mwyn ysgrifennu fel nad oedd yn gweld unrhyw un wrth weithio ar ei gampweithiau. Roedd gan Grieg hefyd gwt ar ei eiddo, oddi wrth bawb arall, yn cynnwys piano, desg a stôf hollbwysig (ar gyfer gwres a/neu gynhesu coffi, yn dibynnu ar ei chwant). John Adams, cyfansoddwr cyfoes sydd â mwy nag un guddfan ar gyfer ysgrifennu: stiwdio gerdd ar wahân i'w gartref a chaban yn y mynyddoedd; mae'n well ganddo unigedd a gwylltir dros unrhyw ymyriadau.

Credir bod Beethoven hefyd yn defnyddio ffurf ar hunan-ynysu, hunan-orfodol - mynd i'w gragen er mwyn cyfansoddi a chreu; fwyfwy wrth iddo golli ei glyw yn sylweddol. Yn ystod y cyfnod hwn, a barodd bron i dri degawd, cyfansoddodd Beethoven weithiau yn cynnwys String Quartet Rhif 13 Op 130. Mae Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd wedi cysylltu'r cafatina (unawd) â'r rhai sy'n dioddef o Covid-19 mewn cymhareb bwerus sy'n gysylltiedig â defnydd Beethoven o'r term beklemmt, sy'n golygu llethu, brest dynn, a'i fynegiant cerddorol.

Roedd yn rhaid i Haydn hunan-ynysu, ymatal ei hun yn ei gartref, yn ystod cyfnod olaf ei fywyd pan heidiodd byddin Napoleon i Fienna. Roedd ei iechyd yn golygu nad oedd yn gallu gadael ei gartref, ond yn ogystal â hyn, roedd dau filwr y tu allan i'w gartref, a oedd yn golygu ei fod yn garcharor yn ei gartref ei hun. (Ond pwrpas hyn oedd ei ddiogelu - ffurf ar hunan-ynysu sy'n gyfarwydd i bob un ohonom bellach). Cyn hyn, roedd wedi treulio ei fywyd gweithio yn hunan-ynysu, i ryw raddau, ym mhlas y Dywysoges Esterházy, ymhell oddi wrth unrhyw ddatblygiadau cerddorol. Er ei fod yn ymwybodol o'r datblygiadau hyn, rhoddodd y cyfnod ryddid iddo gyfansoddi yn ôl ei weledigaethau arddulliol personol.

Yn yr un modd, roedd yn well gan Mozart gyfansoddi oddi wrth dueddiadau'r cyfnod - a oedd yn affwysol iddo. I Mozart, roedd hunan-ynysu'n hanfodol er mwyn ysgrifennu cerddoriaeth a oedd yn deilwng o'r enw.

Felly, a yw hunan-ynysu yn cyfateb i greadigrwydd? Byddai llawer yn dweud, yn seiliedig ar yr wythnosau diwethaf, fod hynny'n wir unwaith yn rhagor.