Newyddion

Cydiwch ym mhob siawns: Blwyddyn mewn bywyd Intern Lleisiol

27 Ionawr 2023

Ymunodd Aliyah Wiggins ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Intern Lleisiol ym mis Ionawr 2022. Ers hynny, mae hi wedi ymwneud â nifer o brosiectau llwyddiannus gyda'r Cwmni, yn cynnwys Tair Llythyren a'r prosiect Refugee Opera yn Birmingham. Siaradwyd ag Aliyah ynghylch ei chyfnod gyda WNO, a sut y gwnaeth yr interniaeth ei chynorthwyo i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau. 

Daeth Aliyah o hyd i'w brwdfrydedd dros opera a cherddoriaeth glasurol ar ddamwain, pan archebodd ei mam wersi canu iddi pan oedd yn 10 oed, heb sylweddoli ei fod ar gyfer cantorion opera. Ond wedi'r sesiwn cyntaf, roedd Aliyah wrth ei bodd, a phenderfynodd ddilyn y gelfyddyd ymhellach. Dewisodd ymuno â rhaglen Interniaeth Opera Cenedlaethol Cymru fel Intern Leisiol yn 2022 gan ei bod yn cyd-fynd â neges y WNO fod opera i bawb ei fwynhau, a'i bod yn frwdfrydig ynghylch cyflwyno cerddoriaeth glasurol i gynulleidfaoedd na fyddai o reidrwydd yn dod o hyd i opera ar eu pen eu hunain.

Prosiect diweddaraf Aliyah oedd y Tair Llythyren, lle cydweithiodd â'r ymgyrchydd Mercy Shibemba a'r gantores a chyfansoddwraig, Eädyth, ar sengl newydd sbon: ‘I Won’t Hold Back’. Cydweithiodd y tair ar ysgrifennu'r geiriau a'r alaw, a chyfrannodd Aliyah lais i'r gân. Dywedodd fod ysgrifennu mewn grŵp ar gyfer prosiect yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o HIV/AIDS yn brofiad anhygoel, a bod pawb oedd yn cymryd rhan wedi gwirioni gyda chanlyniad y prosiect. Gallwch wrando ar y sengl ar SoundCloud.

Tu allan i recordio, mae Aliyah wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac ysgolion addysgol arbennig, yn cyflwyno myfyrwyr i fyd yr opera a'u cynorthwyo i greu a pherfformio eu hopera eu hunain i rieni a chyfoedion. Drwy gydol y profiad mae hi wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr sefydledig i ddatblygu ei sgiliau addysgu pobl ifanc, yn ogystal â'r tasgau arferol sy'n ymwneud â'r gwaith.

 Mae hanes Aliyah gyda chanu wedi ei chynorthwyo i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu, ac mae'n dweud ei fod yn freuddwyd ganddi rannu hynny gyda phobl ifanc i'w cynorthwyo i ddarganfod eu brwdfrydedd eu hunain dros ganu a cherddoriaeth glasurol. Mae'r Interniaeth Leisiol wedi cynorthwyo Aliyah i gyfathrebu gyda phobl o bob oed, a chydbwyso gwahanol ddulliau i gynorthwyo pobl ddod o hyd i'w brwdfrydedd a'i ddilyn. Mae'r Interniaeth hefyd wedi dysgu sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ar Aliyah i ddod yn ymarferydd llawrydd, yn cynnwys cyfathrebu proffesiynol, cynllunio manwl ac wedi darparu profiad i feithrin y sgiliau hanfodol hyn.

I gloi, fe holwyd Aliyah pa gyngor fyddai'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am Interniaeth Leisiol gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Dywedodd, 'Byddwn yn dweud wrthynt am gymryd pob cyfle posibl, hyd yn oed os ydynt yn credu na fydd o fantais. Mae bod yn Intern yn WNO wedi fy ngalluogi i gael cymaint o wybodaeth ynghylch sut i gynorthwyo, arwain, gwerthuso a darparu gweithdy. Mae wedi cynyddu fy hyder mewn opera ac wedi fy nghyflwyno i gymaint o bobl a phrosiectau newydd mewn cyfnod mor fyr ac mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr hyd yn hyn.'