Newyddion

Enillodd David Pountney wobr yng Ngwobrau Dewi Sant

23 Mawrth 2018

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi enillodd ein Cyfarwyddwr Artistig David Pountney wobr Diwylliant yng Ngwobrau Dewi Sant eleni. Dyma wobr i bobl sydd wedi rhagori yn y celfyddydau neu wedi cyfrannu'n fawr at ddiwylliant yng Nghymru, mewn unrhyw gelfyddyd, iaith neu gyfrwng.

Ymunodd David â WNO fel Pennaeth Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig yn 2011, ond mae ei berthynas gyda’r Cwmni yn mynd yn ôl i 1975 pan gyfarwyddodd cylch o berfformiadau Janáček arloesol, cyd-gynhyrchied rhwng Opera Cenedlaethol Cymru a Scottish Opera. Nodwyd y cynhyrchiad o Jenůfa yn 1975 y cychwyn o gydweithrediad 40 mlynedd gyda WNO. Mae cynyrchiadau arall o’r cylch yma dal mewn gweithrediad yn repertoire'r Cwmni, gyda From the House of the Dead yn cael ei  adfywio yn nhymor Hydref 2017.

Rydym yn falch bod y wobr yn adnabod cyfraniad unigryw David i fywyd artistig Cymru, yn arweinydd diwylliannol ac fel artist. Mae ei egni artistig yn rym tu ôl Opera Cenedlaethol Cymru yn ein cenhadaeth i ddod â drama ac emosiwn opera i gynulleidfa mor eang a sy’n bosib. Ochr yn ochr â rhaglen gynhwysfawr o berfformiadau, ieuenctid a’r gymuned a digwyddiadau digidol, mae WNO gyda David Pountney fel ein Cyfarwyddwr Artistig yn creu partneriaethau artistig gyda phartneriaid diwylliannol nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd. 

Yn ogystal â hyn fe wnaeth David wasanaethu fel Cadeirydd o Reithgor y gystadleuaeth glodfawr byd eang Cawr y Byd Caerdydd yn 2015 a 2017. Ac yn fwy diweddar cyfarwyddodd cynhyrchiad newydd WNO, La forza del destino sydd yn rhan gyntaf o’n trioleg Verdi mewn cydweithrediad â Theater Bonn, yn ehangu ar ein perthnasau yma yng Nghymru gyda’r Almaen. 

Hoffwn ddiolch i Wobrau Dewi Sant am noson hyfryd yn dathlu llwyddiannau o unigolion nodedig ar draws y wlad - llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r enwebedigion. 

Am fwy o wybodaeth ar y gwobrau yma a’r enillwyr eraill cliciwch yma

Os hoffwch gefnogi WNO a helpu i ddod a breuddwydion David yn fyw cliciwch yma.