Cyn bo hir, bydd cynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o Death in Venice yn agor yn ein cartref yng Nghaerdydd. Mae opera dywyll a dramatig Britten yn creu delweddau o harddwch hudolus, yn ogystal ag archwilio’r pethau grotésg sy’n llechu dan yr wyneb wrth i ddinas hardd Fenis wynebu epidemig colera marwol.
Cafodd yr opera Death in Venice ei seilio ar nofel fer Thomas Mann, sy’n dwyn yr un teitl. Nid dyma’r unig dro i farwoldeb gael ei herio yn La Serenissima, Dinas y Camlesi. O James Bond i Spider-man, beth am gael golwg ar enghreifftiau eraill mewn diwylliant poblogaidd lle gosodwyd marwolaeth ochr yn ochr â harddwch hudolus Fenis.
Mae tair ffilm James Bond â golygfeydd wedi’u lleoli yn Fenis. Yn gyntaf, From Russia with Love (1963), lle mae Rosa Klebb, un o weithwyr SPECTRE, yn ceisio lladd Bond yn ystafell ei westy; ond yn y diwedd, caiff Rosa ei saethu gan Tatiana, cariad Bond. Yn Moonraker (1978), mae Bond yn cyrraedd Sgwâr Sant Marc ar gondola. Ar ôl darganfod labordy cudd, mae’n ymladd â Chang, hengsmon ei brif wrthwynebydd, Hugo Drax. Mae Bond yn taflu Chang trwy wyneb cloc gwydr y clocdwr yn Sant Marc, gan ei ladd. Yn Casino Royale (2006), sef y ffilm gyntaf lle gwelir Daniel Craig yn chwarae rhan yr asiant gwasanaethau cudd, mae Bond yn syrthio mewn cariad â Vesper, asiant y Trysorlys, ac mae’r ddau’n teithio i Fenis. Yn ystod eu cyfnod yn y ddinas, mae dynion â gynnau yn cipio Vesper ac yn ei chadw’n gaeth mewn palas sy’n cael ei adfer. Mae Bond yn saethu dyfeisiau arnofio’r adeilad, gan beri iddo suddo i’r Gamlas Fawr, ac yna mae’n lladd y saethwyr fesul un.
Yn awr, beth am droi ein golygon oddi wrth sbïwyr tuag at siarcod. Yn Shark in Venice, mae Stephen Baldwin yn chwarae rhan archaeolegydd sy’n teithio i Fenis gyda’i gariad i chwilio am ei dad. Yn ystod eu cyfnod yn y ddinas, mae’r ddau’n gweld bod y camlesi’n llawn siarcod a bod twristiaid diniwed yn cael eu llarpio.
Mae archaeolegydd arall hefyd yn teithio i Fenis i chwilio am ei dad – sef Indiana Jones. Yn The Last Crusade, mae Indy yn darganfod catacwm cudd dan y llyfrgell lle gwelwyd ei dad y tro diwethaf. Yno, mae Brawdoliaeth y Cleddyf Croesffurf yn ymosod arno, sef grŵp sy’n benderfynol o rwystro helwyr trysor rhag cael gafael ar y greal. Ond yn hytrach na lladd arweinydd y grŵp, mae Indy yn arbed ei fywyd er mwyn cael gwybod ymhle y mae ei dad.
Yn A Haunting in Venice, mae’r ditectif Hercule Poirot yn mynd i barti Nos Galan Gaeaf a seans ym mhalas cantores opera enwog o’r enw Rowena Drake. Arferai’r palas fod yn gartref plant amddifad a’r gred yw bod ysbrydion plant yn aflonyddu ar y lle – sef y plant a fu farw yno yn ystod pla a anrheithiodd y ddinas i gyd. Yn ôl y sôn, mae’r ysbrydion yn poenydio pawb sy’n mynd i mewn i’r palas. O un i un, mae’r gwesteion yn marw ac mae Poirot yn dechrau ymchwilio. Mae’n darganfod mai Rowena sydd wrth wraidd y marwolaethau, a’i bod yn gobeithio y byddai pawb yn beio melltith y plant.
Yn Spider-Man: Far from Home (2019), mae’r ‘Elementals’, fel y’u gelwir – sef delweddau wedi’u seilio ar ddaear, gwynt, tân a dŵr – yn creu llanastr drwy’r byd. Mae Spider-Man, Peter Parker, ar drip ysgol yn Fenis pan mae delwedd y Dŵr yn ymosod. Mae’r bwystfil yn rhuthro allan o’r gamlas gan ddinistrio cychod, pontydd ac adeiladau, ac mae’n achosi marwolaeth a dinistr ledled y ddinas hardd.
Er nad oes sbïwyr na siarcod yn ein cynhyrchiad newydd, mae Death in Venice yn cynnig popeth arall y gallech ddymuno’i gael mewn noson yn yr opera: cerddoriaeth hyfryd, stori ddiddorol a setiau ysblennydd, heb anghofio’r campau acrobatig anhygoel. Ymunwch â ni wrth inni deithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr y gwanwyn hwn.