Rydym ni yn WNO bob amser yn ceisio ysbrydoli a denu pobl ifanc, er mwyn dangos iddynt y pwêr a’r hud theatraidd sy’n perthyn i opera. Ond rydym hefyd yn angerddol dros barhau i gefnogi ac ennyn diddordeb y genhedlaeth hŷn; un ffordd rydym wedi bod yn gwneud hyn yw drwy gydweithio â Theatr Colwyn ar eu Dangosiadau Ffilm Dementia-Gyfeillgar.
Dechreuodd y cydweithio ym mis Mawrth 2017 pan wnaethom gymryd rhan yn y dangosiad dementia-gyfeillgar o Calamity Jane. Ers hynny cynhelir dangosiad o sioeau cerdd poblogaidd bob mis. Caiff y gynulleidfa ei diddanu am 30 munud cyn y ffilm gan Répétiteur WNO, Annette Bryn Parri ac Animateur Lleisiol WNO, Sioned Foulkes yn canu caneuon poblogaidd y gall pobl ymuno ynddynt. Yn ystod y ffilm ceir egwyl lle mae’r gynulleidfa’n gallu ymuno â sesiwn Dewch i Ganu WNO. Mae Canu Conwy – côr staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymuno â Sioned ac Annette ar gyfer yr adloniant hwn yn ystod yr egwyl.
Rwyf wedi colli fy nghyfleoedd i ganu oherwydd dementia, mae dod yma bob mis yn fy ysgogi i ganfod a defnyddio fy llais. Roeddwn yn arfer bod yn ganwr hyderus; mae hyn yn fy helpu’n fawr. GALLAF GANU A GWENU ETO.
Mewn digwyddiadau Dewch i Ganu rydym yn annog pawb i ddod ynghyd a chanu gyda ni. Rydym yn cynnal y rhain mewn nifer o leoliadau gwahanol pan fyddwn yn teithio gydag operâu a chyngherddau, fel rheol (ond nid bob tro) yng nghynteddau lleoliadau cyn perfformiadau. Nid oes rhaid i chi gael profiad blaenorol o ganu – dewch i ganu a mwynhau, dyma beth rydym wedi ei gyflwyno i’r dangosiadau dementia-gyfeillgar. Mae tystiolaeth wedi profi bod cerddoriaeth, a chanu’n benodol, yn gallu deffro’r meddwl ac ysgogi’r sylwedd llwyd yn yr ymennydd – sy’n hanfodol i ofal dementia, ac felly mae’r dangosiadau hyn yn gwneud lles i iechyd y mynychwyr. Gall annog pobl i gyd-ganu caneuon adnabyddus o’r gorffennol helpu i ymlacio ac ysgogi’r meddwl – felly os ydych chi’n ofalwr neu ag aelod o’r teulu sy’n dioddef o ddementia ystyriwch fynd â nhw i un o’n dangosiadau.
Ers i ni ddechrau cydweithio ar y dangosiadau dementia-gyfeillgar, rydym wedi cymryd rhan mewn 14 dangosiad, gan gynnwys ffilmiau fel Singin’ in the Rain, Hello Dolly, White Christmas a llawer mwy. Dewch i weld y nesaf ar ddydd Iau 12 Gorffennaf, dangosiad o Cabaret. Ewch i wefan Theatr Colwyn i gael mwy o wybodaeth ar gyfer gofalwyr ac i brynu eich tocynnau.
I gael mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau Dewch i Ganu ac i ddarganfod pryd a ble y gallwch gymryd rhan gyda WNO, cadwch lygad ar y dudalen bwrpasol.