Newyddion

‘Nol i’r ysgol: Dylunio Così fan tutte

19 Ebrill 2024

Mae perfformiadau olaf Così fan tutte WNO yn prysur agosáu, ond cyn i ni ffarwelio â’n cynhyrchiad newydd ardderchog, penderfynwyd y byddem yn cael sgwrs gyda dylunydd yr opera, Jemima Robinson, i gael dysgu rhagor am yr hyn yr oedd rhaid ei wneud i ddod â’r ystafell ddosbarth i’r theatr. 

Sut wnaethoch chi fynd i faes dylunio? Oedd yna unrhyw adegau penodol a oedd wedi tanio eich ysbrydoliaeth? 

Pan oeddwn i’n ferch fach, mi aeth fy mam â mi i weld cynhyrchiad amatur o South Pacific, ac rwy’n cofio cael fy syfrdanu’n llwyr gan ryfeddodau’r theatr – roeddwn i wedi gwirioni â holl egni’r lle ac yn gwybod fy mod eisiau bod yn rhan o’r byd hwnnw rhywsut neu’i gilydd. Yn yr ysgol, fy hoff bynciau oedd Celf, Hanes, Cerddoriaeth a Saesneg, ac mae gwaith dylunio ar gyfer y theatr yn cyfuno’r cwbl ohonyn nhw. Yn ddiweddarach, mi gefais i ymuno â’r National Youth Theatre yn eu hadran olygfeydd ac adeiladu, oedd yn fodd ardderchog i gael mynd i’r afael â phethau a chael dysgu am ddeunyddiau ac ochr ymarferol gwaith dylunio.


Sut ydych chi’n cychwyn meddwl am ddyluniad ar gyfer opera, o’r briff cychwynnol i’r cynnyrch terfynol?

Gwrando ar yr opera fydda i yn y lle cyntaf, ac weithiau mi fydda i’n paentio neu’n tynnu lluniau wrth wrando, gan ddefnyddio’r gwahanol rythmau, tonyddiaeth, awyrgylch y gerddoriaeth i’m harwain i greu lliwiau a siapiau. Mae’r libreto wedyn yn fy helpu i i ddadansoddi’r cymeriadau, felly mi fydda i’n gweithio fel rhyw fath o dditectif gweledol wrth ddatgelu beth mae’r cymeriadau’n ei ddweud am ei gilydd, ynghyd â’u perthnasau â’i gilydd. Mi fydd cyfuniad o hyn, ynghyd ag ymchwilio i gefndir y cyfansoddwr a hanes y darn, yn fy helpu i ddatgelu’r themâu cryf sy’n rhedeg trwy’r darn. Mi fydda i wedyn yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr i ymgorffori ei syniadau - mi fyddem ni’n aml yn trin a thrafod rhai o’r themâu pwysicaf ac yn gweithio ar yr awyrgylch y gobeithiwn ei greu.   

   

Pwy benderfynodd leoli Così fan tutte mewn ysgol go iawn, a phryd?

Roedd Max Hoehn (Cyfarwyddwr Così fan tutte) yn gwybod o’r cychwyn cyntaf ei fod eisiau lleoli’r opera mewn ysgol, nid yn unig oherwydd mai teitl amgen yr opera ydi Yr Ysgol i Gariadon, ond hefyd oherwydd bod dynameg y cyplau’n teimlo’n ifanc ac yn llai aeddfed na dynameg oedolion. Mi fuom ni’n trin a thrafod rhywfaint o syniadau o ran y posibilrwydd o’i lleoli mewn ysgol ac, yn y diwedd, roedd hyn wedi rhoi digonedd o elfennau chwareus a chyffrous i ni. 

A fu unrhyw heriau penodol wrth roi bywyd newydd i Così fan tutte?

Y bwriad gwreiddiol o ran y cynhyrchiad hwn o Così fan tutte oedd cael cynhyrchiad teithiol llai, a oedd i fod i agor yn Ebrill 2020, ond mi gafodd ei ohirio wrth gwrs oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Ar ôl i ni gael y caniatâd ar gyfer cynhyrchiad ar raddfa fawr, roedd yn golygu bod rhaid i ni addasu’r set i ffitio mewn tŷ opera o faint llawn. O ran rhai agweddau, roedd yr heriau newydd yn ddefnyddiol ac yn golygu y gallem ni archwilio potensial creadigol elfennau swrrealaidd yr opera, gan gynnwys ychwanegu’r darnau collage mawr i’r ystafell ddosbarth, gan newid dynameg ac awyrgylch y darn.

Pa agweddau fu’r rhai mwyaf difyr o ran dylunio’r set ar gyfer yr opera?

Rydw i wirioneddol yn mwynhau gweithio gyda Max – mae ei holl agwedd tuag at lwyfannu mor ddifyr, ond bob amser yn sensitif i hanfod pob golygfa. Roedd gwisgo aelodau’r Corws yn un o’r uchafbwyntiau hefyd, gan eu bod wedi trawsnewid yn griw o blant swnllyd cyn gynted ag yr oedden nhw yn eu gwisgoedd ysgol!

 

I weld holl ddyluniadau rhagorol a digywilydd Jemima, peidiwch â cholli’r ychydig gyfleoedd olaf i chi gael gweld Così fan tutte yn cael ei pherfformio ym Mryste ar 24 a 26 o Ebrill, ac ym Mirmingham ar 10 Mai.