Heddiw, yn nhermau papurau tabloid, os cyfeirir at fenyw fel ‘diva’, fel arfer mae hynny’n golygu ei bod hi’n fenyw anodd ac oriog sy’n mynnu llawer o sylw. Pam a phryd y daeth y gair diva, neu’r term cysylltiedig ‘prima donna’, yn ddisgrifiadau difrïol a rhywiaethol o fenywod? Mae’r ddau air yn tarddu o fyd yr opera yn yr Eidal yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Mewn cyfnod o anghydraddoldeb enfawr rhwng dynion a menywod mewn cymdeithas, o leiaf ar lwyfan tai opera, roedd llais a thalent benywaidd yn cael ei barchu a’i ddathlu cymaint â phrif denoriaid y cyfnod.
Mae’r term Eidalaidd prima donna, neu ‘prif fenyw’ yn disgrifio’r brif gantores mewn opera neu gwmni opera, sef soprano fel arfer. Defnyddiwyd y dywediad yn gyntaf tua diwedd yr 17eg ganrif wrth i’r tai opera cyhoeddus cynnar agor yn Fenis. Daeth yn derm i ddisgrifio pob prif gantores opera, yn gyfystyr â llais prydferth a thalent cerddorol. Yn ddiddorol ddigon, nid oedd term tebyg ar gyfer dynion. Mae’r gair diva yn deillio o’r gair Eidaleg am dduwdod benywaidd, neu dduwies, ac mae cysylltiad agos â prima donna. Ymddangosodd yn gynnar yn y 19eg ganrif pan ddaeth llawer o sopranos blaenllaw mor enwog nes eu bod bron fel duwiesau yng ngolwg y cyhoedd a oedd yn eu haddoli – cantorion dwyfol. Byddai diva yn uchel ei pharch ac yn cael ei thalu’n dda. Dechreuwyd defnyddio’r gair mewn tai opera yn Lloegr yn hwyrach yn y 19eg ganrif. Roedd term cyfatebol i ddynion hefyd, sef divo, a oedd yn cyfeirio at y prif lais gwrywaidd mewn opera, sef tenor yn ddieithriad, ond ni wnaeth yr ymadrodd ymsefydlu yn yr un modd â diva. Er hynny, dewiswyd y term fel enw i’r grŵp operatig-clasurol gwrywaidd Il Divo pan wnaethon nhw ffurfio yn 2004.
Yn hwyr yn y 19eg ac yn gynnar yn yr 20fed ganrif roedd statws aruchel y prima donna enwog o fyd yr opera yn golygu bod ganddynt ddisgwyliadau uchel ac yn mynnu’r gorau. Yn fuan, daeth y term operatig i olygu rhywbeth sy’n ymwneud mwy ag ymddygiad na gallu. Hefyd, cafodd y gair diva ei fabwysiadu fwyfwy gan fyd y theatr a byd y sinema oedd wrthi’n datblygu’n gyflym. Yn yr Eidal, roedd diva yn dynodi seren o fyd y ffilm a oedd yn cael ei hedmygu ac esblygodd i gyfeirio at unrhyw seren enwog o fyd y sinema, y theatr, neu gerddoriaeth boblogaidd, ond roedd yn parhau i fod yn ymadrodd llawn parch yn tynnu sylw at dalent a gallu yn ogystal ag enwogrwydd. Erbyn canol yr 20fed ganrif roedd y termau, prima donna a diva, er eu bod yn cael eu defnyddio fel termau operatig o hyd, wedi datblygu i fod yn sylwadau mwy cyffredinol a braidd yn ddirmygus i gyfeirio at unrhyw fenyw uchelgeisiol sy’n mynnu llawer o sylw ym myd adloniant. Mae’n ddiddorol bod divo yn parhau i gadw’i ystyr gwreiddiol sef y prif denor mwyaf talentog.
Nid yw’n fawr o syndod bod geiriau a oedd yn wreiddiol yn amlygu menywod talentog a llwyddiannus wedi newid i fod yn ddisgrifiad angharedig a gwaradwyddus sydd â gwreiddiau rhywiaethol. Hyd yn oed heddiw, mae’r cyfryngau’n euog o rywiaeth bob dydd yn eu disgrifiadau o fenywod sydd yn llygad y cyhoedd. Caiff gwleidyddion neu ddiddanwyr benywaidd eu nawddogi a’u beirniadu am fod yn ‘divas’ awdurdodol ac anodd eu trin, yn hytrach na bod yn uchelgeisiol a phendant fel eu cymheiriad gwrywaidd. Felly, beth am adfer gwir ystyr operatig diva a prima donna: i glodfori menywod â thalent pur, urddas seren, gallu a llwyddiant yn eu dewis faes. Beyoncé yw y diva berffaith ym maes cerddoriaeth boblogaidd: cryf, gwych, a hynod lwyddiannus. Ac felly hefyd Renée Fleming, Anna Netrebko, Joyce DiDonato, Cecilia Bartoli, Angela Gheorghiu, Mary Elizabeth Williams, Rebecca Evans a chymaint o fenywod eraill – dyma yw gwir ‘divas’ yr oes sydd ohoni! Brava prima donna!