Newyddion

Don Giovanni - Cameleon mwyaf y byd opera

9 Mai 2022

Mae Tymor y Gwanwyn 2022 Opera Cenedlaethol Cymru’n cynnwys un o gymeriadau drwg-enwocaf y byd opera, sef yr oferwr a’r merchetwr, Don Giovanni. Yn seiliedig ar y chwedl werin enwog o Sbaen, Don Juan, ef yw’r canolbwynt yn opera gydnabyddedig Mozart, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn y Theatr Genedlaethol wreiddiol yn Prague ym mis Hydref 1787. Mae’n ddihiryn anfoesol sydd yn ferchetwr o fri, ond mae mwy i’r dyn hwn nag a welir o’r edrychiad cyntaf.

Who is Don Giovanni?

Wedi’i ddisgrifio gan Eiriadur Rhydychen fel ‘unigolyn sy’n newid ei farn neu ymddygiad yn ôl y sefyllfa’, mae ein Don Giovanni drwg-enwog yn enghraifft berffaith o gameleon. Mae’i ddewrder a’i natur ddiofn yn portreadu arwr, ond mae’r ffaith ei fod yn gwrthod edifarhau a chydnabod yr anhrefn a achosodd yn ei wneud yn gachgi. Byddai rhai yn sicr yn uniaethu’r nodweddion hyn â chymeriad Don Giovanni, fel merchetwr amharchus sy’n gwneud ei orau glas i ddominyddu’i ferched. Byddai ei gymeriad o bosib, mewn rhai cyd-destunnau’n cael ei ystyried yn ddewr ac arwrol, a’i fod sicr yn arddangos ambell i rinwedd personol ffafriol megis ei natur ddiofn a’i gredoau cadarn.

Drwy gydol yr opera, mae Don Giovanni’n defnyddio’i bwerau i hudo’r merched a ddaw ar eu traws ac yn cymryd mantais ohonynt. O’i restr o 2,065 o gariadon, sy’n cynnwys merched gwerinol, morynion, merched o’r ddinas, iarllesau, barwnesau, ardalyddesau, tywysogesau, mae’n defnyddio’i gyfoeth a’i bŵer i amddiffyn ei hun rhag canlyniadau ei weithredoedd. Does dim yn ei rwystro, dim hyd yn oed tad amddiffynnol.

Yn yr opera gwelwn ei ymdrechion i hudo Donna Anna, merch Commendatore ac yn y diwedd mae’n ei ladd gan adael Anna’n dorcalonnus. Mae cymeriad mor bwerus â Don Giovanni’n defnyddio’i alluoedd i adael ei gariadon ac unrhyw un sy’n dod i gysylltiad ag o mewn poen trychinebus, a dengys o’r dechrau ei anallu i newid ei ffyrdd a’i fethiant i fod yn well unigolyn. Mae Mozart yn cynrychioli emosiwn pob cymeriad drwy gydol yr opera mewn ffordd hynod fedrus gyda’i elfennau cerddorol syfrdanol yn amlygu’r gwrthdaro drwy ei gyfansoddiadau. Mae Don Giovanni’n aml yn rhoi’r hyn mae pob un o’r merched yn ei ddyheu yn gerddorol os nad yn rhamantus wrth iddo ailddyfeisio’i hun rhwng bydoedd, gan ei fod yn brin o foesau ac yn gwbl ddi-hid. Yn fedrus iawn, mae Mozart yn defnyddio motiffau cerddorol llym ar ddechrau’r opera sy’n datgelu’r ochr fwy ymosodol o Don Giovanni wrth iddo fod yn amharod i gefnu ar y gwrthdaro.

Er yn wreiddiol iddi gael ei disgrifio fel opera buffa, mae’r opera yn ei hanfod yn gomedi tywyll gyda themâu marwolaeth a thorcalon ond gyda’r elfennau o hiwmor yn cael eu portreadu gan y ffordd mae Don Giovanni’n tyrchu i’w natur dywyll.

Mae digon o amser ar ôl y Gwanwyn hwn i weld holl anturiaethau llawn anghydfod yr uchelwr ifanc, haerllug a pherswadiol hwn felly penderfynwch drosoch eich hun ai ef yw cameleon mwyaf y byd opera.