Newyddion

Don Pasquale – cynhyrchiad newydd ar gyfer taith haf 2019

13 Rhagfyr 2018

Yn dilyn llwyddiant Rhondda Rips It Up!, bydd taith haf nesaf WNO, yn gynhyrchiad newydd sbon o Don Pasquale gan Donizetti, gyda libreto newydd gan Daisy Evans, sydd hefyd yn cyfarwyddo. Mae hyn yn parhau â nod WNO o gyflwyno opera i nifer ehangach o bobl ledled Cymru a Lloegr, mewn trefi a dinasoedd sydd ymhellach i ffwrdd na’n rhaglen deithiol arferol. Gyda Rhondda Rips It Up! yn cael ei pherfformio i dros 5,000 o bobl, nifer ohonynt yn newydd i WNO, rydym yn sicr yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn rhannau gwahanol o’r wlad ac yn eu cyflwyno i’n gwaith. Bydd Don Pasquale yn dychwelyd i nifer o’r lleoliadau yr ymwelodd Rhondda Rips It Up! â nhw, tra byddwn hefyd yn ychwanegu lleoliadau newydd at yr amserlen.

Wedi’i lleoli yn fan doner cebab Pasquale ac o’i chwmpas, cawn stori rithdybiau rhamantus hen lanc a’r cariadon ifanc sy’n ei drechu; perthnasol iawn i 2019.

Rydym yn cyfarfod â chast o gymeriadau hynod fywiog, gan gynnwys nai ifanc Pasquale, Ernesto sydd â’i fryd ar fod yn gerddor, a’i gariad Norina, yn ogystal â dyn lleol, Malatesta a’i fand teithiol sy’n ymgasglu y tu allan i fan cebab Pasquale ar ôl eu nosweithiau hirion o yfed. Mae ymgais Pasqulae i ddod o hyd i wraig a chenhedlu mab ac etifedd i’w fusnes cebab yn sbarduno Ernesto, ac mae ef a Norina yn cynllwynio i dwyllo’r hen ddyn, sicrhau eu dyfodol a’i ddod ag ef i’r 21ain ganrif.

Mae’r libreto newydd wedi cael ei ysgrifennu gan Daisy Evans, sydd wedi datblygu ei chwmni ei hun Silent Opera drwy grant gan Sky Arts Future Fund. Fe’i cefnogwyd fel un o dalentau cyfarwyddo ifanc gan English National Opera, ac yn ddiweddar cyfarwyddodd La Traviata ar gyfer Gŵyl Opera Longborough. Drwy gydweithio â’r Arweinydd Stephen Higgins, maent wedi rhoi tro modern ar stori glasurol Don Pasquale, gan aros yn driw i’r themâu gwreiddiol. Maent wedi diweddaru’r stori i’w gwneud yn berthnasol i gynulleidfa cwbl newydd yn ogystal â’r rhai hynny sydd eisoes yn gwybod am y gwaith hwn ac yn ei garu. Mae’r dylunydd Loren Elstein wedi creu set hwyliog sy’n eich tywys i ganol Caerdydd ac yn lleoli’r darn yn ddwfn yn yr oes sydd ohoni.

P’un ai Don Pasquale yw eich hoff opera, neu os nad ydych wedi ei weld o’r erioed blaen, bydd y cynhyrchiad hwn yn eich cyfareddu a’ch difyrru.