Y penwythnos hwn mae'n Ddiwrnod Cenedlaethol Drymio ac i ddathlu fe wnaethom siarad â Patrick King, tympanydd a drymiwr rhyfeddol Opera Cenedlaethol Cymru am ei rôl. Mae'n rhannu ei hoffter o offerynnau taro ac ychydig o newyddion cyffrous. Rhowch groeso cynnes i frenin y patio...Pat King...sŵn drymiau os gwelwch yn dda...
Pa mor hir wyt ti wedi bod yn ddrymiwr?
Fe wnes i ddechrau drymio amser maith yn ôl, roedd gan fy nhad git gartref a chyn gynted ag y gallwn gerdded roeddwn yn taro'r drymiau. Mae gan fy mam lun gwych ohonof mewn clwt yn taro potiau a sosbenni.
Wyt ti'n chwarae unrhyw offerynnau eraill?
Fe wnes i chwarae'r soddgrwth hyd at radd 8 tan i'r drymiau ac offerynnau taro gymryd drosodd yn gyfan gwbl.
A oes rhaid i ti fyrfyfyrio o gwbl?
Yn fy ngwaith gydag WNO, na - rwy'n gadael hynny i'r arbenigwyr byrfyfyrio.
Pwy yw dy hoff ddrymwyr a pham?
O ran cit byddai'n rhaid dweud Steve Gadd a hefyd fy hen athro cit, Ralph Salmins a chwaraeodd ar albwm Swing When You're Winning Robbie Williams, mae'n wych.
Beth wyt ti'n ei garu am ddrymio mewn opera?
Y ddrama - nid wyf erioed wedi chwarae opera sydd ddim yn gorffen gyda rhyw fath o ddadwrdd dramatig yn y timpani. Mae fy nghydweithwyr yn dweud yn aml fy mod i'n cael y darnau gorau i gyd.
Beth am dy ddrymiau newydd?
Mae pawb ohonom wedi cyffroi'n arw i dderbyn set wych o ddrymiau timpani Hardtke o Ferlin. Mae'r rhain wedi cael eu creu yn arbennig i ni yn WNO ac maent wir yn waith celfydd. Es i'r ffatri tua dwy flynedd yn ôl a disgynnais mewn cariad â'r drymiau... Rwyf ar bigau i'w rhannu gyda'n cynulleidfaoedd.