Trosolwg
Astudiodd Patrick yn yr Royal College of Music gyda Kevin Hathway, Andy Smith, Mike Skinner a Janos Kescei. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd am dair blynedd, dan warchodaeth Rainer Seegers (Prif Chwaraewr Tympanau, Cerddorfa Ffilharmonig Berlin). Sbardunodd hyn ei gariad at y tympanau pen croen llo.
Cyn ymuno â WNO, chwaraeai Patrick yn llawrydd yn Llundain gyda llawer o gerddorfeydd ar arweinyddion gwych: ‘Roeddwn yn ddigon ffodus i fwynhau cyfleoedd cerddorol anhygoeld, gan gynnwys chwarae Timpani ar Lwyfan y ‘Minotaur’ gan Harrison Birtwhistle yn y Tŷ Opera Brenhinol.’
Ymhlith uchafbwyntiau personol Patrick gyda WNO mae perfformio Die Meistersinger ar BBC Proms gyda Syr Bryn Terfel, Lothar Koenings, Lulu a Wozzeck yn Llandudno, a Symffoni Rhif. 2 gan Mahler, gyda Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus. ‘Roedd perfformio rhythm y ‘Teipiadur‘ mewn cyngerdd teulu yn Hong Kong i neuadd orlawn yn arbennig iawn hefyd!’
Mae Patrick yn angerddol dros waith addysg, dysgu ac ysbrydoli offerynwyr taro ifanc, a rhannu llawenydd cerddorol mewn gweithdai i blant a phobl ifanc na fyddai’n cael y cyfle fel arall. Mae Patrick yn dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a bu’n diwtor i National Youth Orchestra of Great Britain.
Y tu hwnt i WNO, mae Patrick yn syrffiwr ac mae ei weld yn aml mewn ‘wet suit’ ar ei draeth lleol ym Mro Morgannwg. Mae’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu ifanc, a chael peint achlysurol o gwrw cartref.