Newyddion

‘Mae cam-fanteisio yn warthus’ - Prosiect Brave gydag Ysgol Gynradd Moorland

13 Mehefin 2022

‘Mae cam-fanteisio yn warthus, ond mae ’na ffordd o’i ddatrys
Os nad ydi pethau’n teimlo’n iawn, rho wybod i athro neu oedolyn dibynadwy
Mae ’na bobl a all dy gadw’n ddiogel, mi fedri di gael help bob amser’

Credir bod un o bob pedwar achos o fasnachu a gofnodir yn y DU bellach yn ymwneud â phlant. Gan ddefnyddio Madam Butterfly fel ysbrydoliaeth - a oedd yn rhan o Dymor yr Hydref 2021 a Thymor y Gwanwyn 2022 Opera Cenedlaethol Cymru - crëwyd Brave er mwyn mynd ati mewn modd priodol i dynnu sylw plant oedran cynradd at rywbeth a elwir yn gam-fanteisio ar blant. Cyflwynwyd y mater iddynt trwy gyfrwng yr opera boblogaidd gan Puccini.

Gyda’r nod o addysgu’r plant ynglŷn â cham-fanteisio, crëwyd y prosiect peilot hwn gan Gynhyrchydd WNO Jennifer Hill, y cyfansoddwr Helen Woods, y soprano Claire Watkins, y pianydd Siân Davies, y feiolinydd Emma Menzies a’r soddgrythor Beatrice Newman, ynghyd â Heather Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol y Brave Bear Trust. Bu’r tîm yn gweithio gyda hanner cant o blant 10-11 oed (Blwyddyn 6) o Ysgol Gynradd Moorland a’u hathrawon hynod gefnogol, Lou Morgan a Lawrence Hayes.

Cyflwynwyd y plant i opera, ac aethpwyd ati i archwilio cerddoriaeth a stori Un Bel Di a The Humming Chorus o Madam Butterfly gan Puccini; dwy sesiwn drylwyr gyda Heather Lewis, yn archwilio excploetio yn ei ffurfiau niferus, sut y gallant ei adnabod a dweud wrth rywun amdano. Fel rhan o’r sesiynau hyn, astudiodd y plant lyfr Heather, Brave - a story of Friendship and Freedom - lle canolbwyntir ar ferch ifanc sy’n syrthio i ddwylo masnachwr ac a gludir dramor a’i gorfodi i gaethwasanaeth domestig ond sydd, yn y pen draw, yn dianc, a oedd yn darparu naratif eu opera newydd; ac yn olaf ond nid yn lleiaf, cynhaliwyd gweithdai cerdd gyda’n cyfansoddwr er mwyn creu geiriau a cherddoriaeth ar gyfer opera newydd sbon danlli (caiff y geiriau eu dyfynnu uchod). Dathlwyd penllanw’r prosiect trwy gynnal dau berfformiad arbennig i rieni a chyfeillion - y tro cyntaf i’r rhieni gael mynd i mewn i adeiladau’r ysgol ers cyfnod clo cyntaf y Coronafeirws ym mis Mawrth 2020.

Trwy gyfrwng y prosiect codi ymwybyddiaeth hwn, tynnwyd sylw’r plant at broblem real iawn sy’n effeithio ar oedolion a phlant fel ei gilydd, nid yn unig mewn mannau sydd ymhell bell i ffwrdd, ond ar stepen eu drws, a bu modd iddynt wneud hyn oll mewn lle diogel a chefnogol a chael cyfle i ofyn cwestiynau. Er bod y pwnc dan sylw yn un difrifol, cafwyd llond lle o hwyl a sbri yn ystod y sesiynau, ynghyd ag ymdeimlad gwirioneddol o falchder a chyflawniad pan gafodd y plant gyfle i berfformio’u gwaith o flaen eu teuluoedd.

Gan fod miloedd o bobl yn cael eu twyllo gan bobl ddiegwyddor sy’n barod i’w defnyddio fel nwyddau at eu dibenion eu hunain ac er mwyn sicrhau enillion ariannol, cewch ragor o wybodaeth am Gaethwasiaeth Fodern yma. Ymhellach, mae’r Brave Bear Trust yn cynnig modiwl Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern ar ei gwefan.