Newyddion

Diwrnod Darganfod Opera: Am Ddim, Llawn Hwyl, a Ffrindiau Blewog

26 Medi 2019

Os ydych yn dal i ddod dros straen y gwyliau haf, a'r pot arian wedi hen fynd ar ddyddiau allan llawn hufen ia - peidiwch â phoeni, mae gan WNO ddiwrnod o adloniant am ddim ichi; ein Diwrnod Darganfod Opera, a chofiwch, nid ydym yn codi mwy am y fflêc.

Dewch i lenwi'r gwacter rhwng yr Haf a Chalan Gaeaf gyda help WNO. Meddyliwch yn ôl i'ch hoff atgof o'ch plentyndod, ydych chi'n adeiladu cestyll tywod ar y traeth, yn gwylio cerddor stryd am y tro cyntaf neu'n trawsnewid i deigr? Ail-grewch (rai o'r) atgofion hyn; cofleidiwch Fae Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru eiconig a'i holl swyn i greu atgofion bythgofiadwy newydd.

Bydd y diwrnod yn cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd, perfformiadau a phrofiadau rhyngweithiol a fydd yn cael eu cynnal yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd aelodau Corws WNO hefyd yn diddanu'r cyhoedd gyda'u lleisiau anhygoel.

Sicrhewch eich bod yn meithrin talent ifanc eich teulu drwy gymryd rhan yn ein gweithdai offerynnau taro - efallai eich bod â darpar gerddor yn eich plith, neu ymunwch â'n gweithdai propiau, lle gall plant ddod draw i greu band gwallt clustiau cadno.

Ydych chi erioed wedi pendroni sut mae operâu yn creu cymaint o bropiau neu'n gwisgo corws mawr mewn nifer o wisgoedd gwahanol neu drawsnewid rhywun yn llwyr gyda wig syml? Gallwch ddod o hyd i'r atebion wrth i dîm WNO rannu technegau o gefn llwyfan fel eich bod yn darganfod cyfrinachau bywyd yn yr esgyll. 



Cynhelir profiad Realiti Estynedig (AR) hefyd, A Vixen's Tale, lle gallwch grwydro coetir hudolus coedwig y cadno. Bydd ein gosodiad twnnel ar raddfa ddynol yn eich cludo chi i fyd ag arddull llyfr gyda lluniau symudol lle gallwch gael eich ysbrydoli gan gerddoriaeth Janáček a'r themâu o amgylch y cylch bywyd a natur. Dywedwch helo wrth y broga bach rhyfedd a hy.

Gadewch i'r cenau cadno ynddoch chi'n rhydd a dewch draw i'n Diwrnod Darganfod Opera. Gwŷl llawn hwyl, fel y Llwynoges ei hun yn yr opera, gallwch fyfyrio ar bwysigrwydd treulio amser gyda'ch teulu a ffrindiau. Nid ar gyfer y teulu'n unig mae'r digwyddiad, mae ar gyfer pawb; treuliwch ddiwrnod â'ch nith fach, llusgwch eich cefnder oddi wrth yr Xbox neu dewch ar eich pen eich hun.

I gloi'r diwrnod gyda diweddglo cyffrous, bydd yr awdur Mark Evans yn darllen ei lyfr plant newydd ABC of Opera, ac yn dilyn bydd perfformiad arbennig gan aelodau o Gorws WNO

I ddod o hyd i gestyll tywod, bydd rhaid ichi wibio draw i'r Barri, ond uchafbwynt y diwrnod yn amlwg fydd cael peintio eich wyneb, ac fel byddai Nessa'n ei ddweud, 'Mae pawb yn hoffi cael peintio eu hwyneb.' Yn cynnwys oedolion.