Newyddion

Ian Douglas - sut y daeth pythefnos yn 45 mlynedd...

20 Mai 2022

Eleni, nid dim ond Jiwbilî Blatinwm y Frenhines yr ydym yn ei dathlu ond Pen blwydd Saffir Ian Douglas, Rheolwr y Cwmni,  gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Dechreuodd Ian ei yrfa gyda ni mewn modd drwgargoelus iawn, roedd gyda ni am bythefnos yn helpu cefn llwyfan ac wedi ei logi i fod o gymorth ar gyfer Tymor yr Haf 1977 yn Llandudno, penwythnos Jiwbilî Arian y Frenhines. 45 mlynedd yn ddiweddarach, wedi perfformiadau mewn 61 lleoliad - o theatrau i neuaddau ysgolion a hyd yn oed gerddi - a 131 Tymor, gan gynnwys teithiau i 12 o wahanol wledydd; bydd Ian yn hongian ei dei bô ac yn ymddeol o Opera Cenedlaethol Cymru. Fel mae'n cydnabod ei hun 

'...fe newidiodd fy mywyd yn ystod y pythefnos yna. Fe syrthiais mewn cariad â'r theatr.'

Ar ôl mynd yn ei flaen i Dîm Rheoli'r Cwmni wedi cyfnod fel Stiward Siop, mae sawl aelod o staff - ddoe a heddiw - yn cofio Ian mewn gwahanol swyddi, ond wastad â'r amser, hiwmor a'r parodrwydd i fod o gymorth, waeth pwy oeddech chi. Fel mae Ian yn ei ddweud: 'yn y swydd hon mae arnoch angen ysgwyddau llydan, gwên lydan ac amynedd Jôb!'

Ymddengys fod presenoldeb Ian - bob amser yn ddiddiwedd, gyforiog ei gyflenwad o dei bôs - i lawer, yr un fath ac yn un ag Opera Cenedlaethol Cymru y Cwmni. I lawer o gynulleidfaoedd Opera Cenedlaethol Cymru ef yw wyneb cyhoeddus y cwmni, allan yn y cynteddau i groesawu pobl, yn cynorthwyo gydag unrhyw broblemau all godi, neu'n rhoi cyfarwyddiadau, gwybodaeth, neu gyngor. Ar ôl iddo wneud ffrindiau gyda staff mewn gwahanol leoliadau ar draws ein hamserlen deithio yn ogystal ag artistiaid gwadd sy'n dod yn ôl at Opera Cenedlaethol Cymru dro ar ôl tro, mae hirhoedledd fel un Ian gydag Opera Cenedlaethol Cymru, yn darparu'r sylfaen berffaith i gyfeillgarwch o'r fath ddechrau a ffynnu ac nid yw'n gorffen wrth ddrws y llwyfan chwaith.

Mae dyletswyddau o ddydd i ddydd Ian wedi bod yn amrywiol a dweud y lleiaf ac yn dipyn mwy na'i ddisgrifiad syml ef: 'i gynnal sioe waeth beth fo'r heriau - cymysgedd o gynllunio ymlaen llaw a rheoli argyfwng.' Mae ganddo lu o straeon mae'n fwy na bodlon eu rhannu, er enghraifft, ei atgof o act olaf opera Wagner yn cael ei chwarae o dan y sêr pan gafodd y gromen uwchben yr awditoriwm yn yr Hippodrome ym Mryste ei hagor gan winsh llaw ar y to gan ei bod mor boeth y tu mewn. 

Neu ymweliad â Pharis pan fu raid iddo berswadio'r Cwmni i adael y gwesty drwy'r ceginau gan fod y paneli ffenestri gwydr yn y cyntedd yn cael eu chwalu gan derfysg oedd yn pasio. Neu sut, ar adeg arall, ym Mharis unwaith eto, y deallodd Ian y gallech danio injan bws llawn sy'n gwrthod cychwyn gyda dim ond pedwar neu bump o bobl - gwybodaeth nad oedd raid iddo ei defnyddio fyth wedyn diolch byth. 

Yn 2009, pan ofynnwyd iddo sut mae'n paratoi at ei waith, ei ateb oedd: 'Coffi cryf yn y bore. Gwisgo siaced giniawa, crimogau a gwên fawr gyda'r nos.'  Felly yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, o waelod calon, rydym yn dymuno ymddeoliad gwych i Ian - mae'n llawn haeddu ymlacio a mwynhau bywyd ar gyflymder arafach ar ôl delio â saga barhaus o heriau ers hynny.

'Y tro cyntaf imi gael fy ngadael yng ngofal sioe, daeth y Tosca oddi ar y llwyfan ar ddiwedd Act 1, i ddweud wrthyf nad oedd am barhau gan fod gormod o fwg ar y llwyfan. Rwy'n meddwl fy mod wedi addo y byddai'r rhai oedd yn gyfrifol yn cael y sac er mwyn ei pherswadio i barhau. (Wnes i ddim.)'

Ian Douglas, un o lewion Opera Cenedlaethol Cymru rhwng Mehefin 1977 a Mai 2022: diolch!