Newyddion

Aria Figaro - Largo al Factotum

19 Tachwedd 2021

Mae Tymor yr Hydref 2021 Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys un o alawon mwyaf adnabyddus y byd opera, ac rydym yn sicr y byddwch chi’n ei hadnabod. Mae Largo al factotum (sef Aria Figaro) o The Barber of Seville gan Rossini yn golygu ‘Make way for the factotum’. Mae’r term ‘factotum’ yn deillio o’r iaith Ladin, ac yn cyfeirio at was cyffredin sy’n ‘gwneud popeth’, fel mae’r gair yn ei awgrymu. Cenir yr aria wrth i’r prif gymeriad ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf; mae’n uchafbwynt comedi o fewn y stori, ac yn fath o ddifyrrwch tra bod meistr Figaro yn ceisio sylw Rosina tu ôl i gefn ei gwarcheidwad, Dr Bartolo (sydd eisiau canlyn y ferch ei hun).

Yn ystod yr aria, mae Figaro yn egluro i ni pa mor bwysig ydyw - a’r ffordd mae pob dyn, merch a phlentyn yn troi ato a chymaint mae’n mwynhau ei waith a’i fywyd. Mae’n disgrifio ei hun fel barbwr o ansawdd, dewr, lwcus ac yn barod am unrhyw beth.

Mae’r gair Figaro yn cael ei ailadrodd sawl gwaith cyn yr adran barablu gomedi olaf, ac mae’n eiconig yn niwylliant poblogaidd o ganu operatig. Yn wir, fe’i ystyrir yn un o’r ariâu anoddaf i fariton ei pherfformio oherwydd y tempo a geiriau Eidaleg cymhleth sy’n troelli’r dafod.

Ond ymhle ydych chi wedi ei chlywed o’r blaen?

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r darn wedi cael ei ddefnyddio i hysbysebu olew olewydd ar y teledu ym Mhrydain, a chafodd ei ganu gan ganwr gobeithiol yng nghlyweliadau Britain’s Got Talent. Gan fyfyrio ar eich plentyndod, efallai eich bod yn cofio Bugs Bunny fel The Rabbit of Seville, pan dorrodd wallt ei elyn, Elmer Fudd, yn flêr; mae’r aria hefyd yn ymddangos mewn cartwnau yn cynnwys Woody Woodpecker, Porky the Pig a Tom & Jerry.  Os ydych yn hoff o ffilmiau, mae’n bosib eich bod wedi clywed Robin Williams yn canu adrannau yn yr agoriad bywiog i Mrs Doubtfire, neu wedi gweld Walter Matthau yn defnyddio’r aria i addysgu gwarchodwr ffiniau ar y gwahaniaethau rhwng Mozart a Rossini yn Hopscotch, ac efallai eich bod chi hyd yn oed wedi gweld dehongliad Buck the Weasel yn Ice Age. Ar y sgrin fach, mae Seinfeld, The Simpsons (Homer of Seville) a Family Guy wedi defnyddio’r gerddoriaeth mewn penodau, ac mae’r gyfres o alwadau Figaro, Figaro, Figaro hefyd wedi ymddangos yn sgets Harry Enfield and Chums wrth gyfeirio at opera. Mae Mika, y canwr, hefyd wedi cadarnhau bod y gân a rhyddhaodd yn 2007, Grace Kelly, yn seiliedig ar Largo al Factotum.

Er mai dim ond rhan fechan o’r opera yw’r aria hon, mae’n tynnu sylw at frwdfrydedd Figaro am fywyd, ac mae’n arddangos gwir lawenydd The Barber of Seville ar y cyfan.