Newyddion

Dewch i gael gwybod beth wnaethom yn 2017/2018

21 Mawrth 2019

Gyda'r gwanwyn ar y gorwel, dyma'r adeg perffaith inni edrych yn ôl ar gyflawniadau Opera Cenedlaethol Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein Hadolygiad Blynyddol yn dathlu'r cyflawniadau hynny a'n gwaith dros dymor 2017/2018.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyrraedd dros 135,000 o bobl ar lwyfannau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym wedi creu opera sy'n fywiog, cyffrous a mentrus; o Dymor Chwyldro Rwsia a gafodd ganmoliaeth gan y beirniad i Rhondda Rips It Up!, ein comisiwn newydd, egnïol sy'n dathlu bywyd y swffragét o Gymru, Margaret Haig Thomas.

Rydym wedi cyrraedd ymhellach gyda'n gwaith, gan berfformio i gynulleidfa sy'n dod i gyfanswm o 100,000 yn fyd-eang, drwy 110 o berfformiadau byw mewn 30 o leoliadau teithio ar hyd a lled Cymru, Lloegr a'r byd.

Gwnaethom ddefnyddio pŵer opera i ysbrydoli degau o filoedd o bobl yn ein cymunedau drwy ein gwaith addysgol a chymunedol. Ledled y DU, o Landudno i Southampton, mae ein rhaglen o gyngherddau i'r teulu, gweithdai i ysgolion, corysau cymunedol a grwpiau opera ieuenctid rhanbarthol yn ein helpu i feithrin talent newydd a'r genhedlaeth nesaf o selogion opera.