Tra bod opera yn ffynhonnell wych o adloniant fe all fod yn ffynhonnell o ddoethineb ar gyfer bywyd bob dydd hefyd. Yma, fe edrychwn ar bum gwers y gallwn eu cymryd o bum opera wahanol - yn cynnwys rhai y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn eu perfformio'n fuan.
1) Dewiswch beth i'w yfed
Mae nifer ohonom yn dymuno cael gwared ar boenau bywyd. Ond yn The Makropulos Affair gan Janáček deallwn fod ystyr yn dibynnu ar ein cyfyngiadau. Mae Elina Makropulos wedi byw am dros 300 mlynedd drwy yfed diod hud; gorfododd ei thad hi i yfed y ddiod hud pan oedd yn 13 oed i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio. Ond mae'r ystod bywyd sylweddol hon wedi achosi iddi fod yn oer a di-awch. A fydd hi fyth yn derbyn ei marwoldeb ac yn darganfod sut beth yw bod yn ddynol?
2) Nid yw popeth fel yr ymddengys
Mae opera Leonard Bernstein o 1952 Trouble in Tahiti yn agor gyda thriaws jazz yn canu cân fywiog a llawen (yn cynnwys canu sgat) ynghylch byw mewn maestref Americanaidd ddelfrydol. Ond gwelir eironi tywyll y cyflwyniad pan mae'r ddrama yn cychwyn. Gwelwn y sefyllfa ddomestig ddifrifol y gŵr a'r wraig, Sam a Dinah, wrth iddynt ffraeo dros frecwast. Rydym yn boenus ymwybodol o sut y gall realiti bywyd bob dydd fod ymhell o'r ddelwedd berffaith a ddangoswn i'r byd.
3) Pŵer llwyr yn llygru'n llwyr
Mae gwaith sylweddol y Ring Cycle gan Wagner (sydd mewn gwirionedd yn bedair opera) yn opera dros 15 awr ac mae'n rhaid ei gwylio dros sawl diwrnod. Mae'n cynrychioli uchafbwynt Rhamantiaeth gyda'i harmonïau cyfoethog, cyfnewidiol a cherddorfa synhwyrus. Mae'r plot epig yn ymdrin â'r ysfa ddynol am bŵer, y mae modd ei fodloni â modrwy hudol. Ond wrth i'r gwaith fynd rhagddo, rydym yn gweld bod dyhead dall am bŵer yn llwybr peryglus a dinistriol, i ni ein hunain a phawb arall.
4) Peidiwch â gwastraffu eich cyflog
Un o'r negeseuon ysgafnach ond serch hynny'n bwysig i'w cymryd o La bohème gan Puccini yw peidio â gwario'ch rhent yn y dafarn. Mae'r pedwar bohemiad Rodolfo, Marcello, Schaunard a Colline yn defnyddio alcohol i ddenu sylw eu landlord oddi wrth y rhent mae wedi dod i'w gasglu hyd yn oed. Ond fe ŵyr bob un ohonom fod hon yn strategaeth beryglus i'w defnyddio yn y tymor hir.
5) Dod drwy'r felin yn gryfach
Yn The Magic Flute gan Mozart, mae Tamino a Pamina yn unedig yn dilyn cyfres o dreialon ac yn cael eu canmol gan yr offeiriaid y deml. Mae hyn yn symbol o sut y gall anhawster ac anghydfod ein dangos ar ein gorau. Er gwaetha'r ffaith ein bod yn dymuno gwneud pethau'n haws, y tywyllwch sydd weithiau yn dangos pwy ydym mewn gwirionedd.
Os yw'r holl ddoethineb hyn wedi eich ysbrydoli i roi cynnig ar opera, yna pam na ddewch chi draw i un o gynyrchiadau WNO? Profwch The Makropulos Affair a La bohème yr Hydref hwn a The Magic Flute rhwng 5 Mawrth - 27 Mai 2023.