Newyddion

Pum rheswm i weld Madam Butterfly y Tymor hwn

13 Ebrill 2022

Penderfynodd Puccini ymroi ei hun i gerddoriaeth yn bum mlwydd oed, ac fe gyfansoddodd bum fersiwn o’i glasur emosiynol, Madam Butterfly, sydd nawr yn un o’r operâu a berfformir amlaf o amgylch y byd. Dyma gynnig pum rheswm ichi fynd i weld ‘dehongliad cyfoes, hynod emosiynol’ Opera Cenedlaethol Cymru y Tymor hwn.

1 Mae Madam Butterfly yn glasur gwirioneddol – roedd enw da Puccini fel cyfansoddwr campweithiau eisoes wedi ei sefydlu cyn dangosiad cyntaf o Madam Butterfly yn 1904 gyda La bohème yn 1896 a Tosca yn 1900. Gyda cherddoriaeth gyfoethog, ingol ac alawon yn dwyn i gof ganeuon gwerin traddodiadol o Japan, a hyd yn oed awgrym o Americana gydag elfennau o The Star-Spangled Banner wedi eu gwasgaru drwyddo fel rhan o gerddoriaeth thematig Pinkerton. Madam Butterfly wnaeth ysbrydoli’r sioe gerdd boblogaidd, Miss Saigon – dwy stori drasig union yr un fath am dwyll a chwalu breuddwydion.

2 Wedi eu plethu o fewn sgôr odidog Puccini mae yna ganeuon hudolus, unigryw, pob un yn sicr o daro tant. Uchafbwyntiau megis deuawd gariadus Butterfly a Pinkerton yn Act Un, gyda phob gair a gennir yn diffinio eu safbwyntiau gwahanol am briodas. Mae aria Butterfly, Un bel dì, sy’n torri calon wrth i’r gynulleidfa ddod yn fwy ymwybodol o wir natur yr undod, ac mae clywed am ei hymroddiad a’i chred y bydd Pinkerton yn dychwelyd i’r cartref teuluol yn ennyn emosiwn clasurol. Ynghyd ag aria Butterfly, mae The Humming Chorus yn uchafbwynt arall y byddwch wedi ei chlywed o’r blaen, darn llawn awyrgylch, heb eiriau, ond sydd ag ergyd emosiynol gref. O glywed am ddychweliad Pinkerton, mae Suzuki a Butterfly yn canu’r ddeuawd casglu blodau sy’n rhoi un o adegau hapusaf yr opera inni...Er bod safbwynt realistig Suzuki o sefyllfa ei ffrind a'i dadrithiad yn Pinkerton a’i resymau dros beidio dychwelyd yn bwrw cysgod dros y cyfan.

3 Mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn rhoi agwedd newydd ar y stori. Mae'r Cyfarwyddwr Lindy Hume a’r Dylunydd Isabella Bywater yn edrych ar y stori o safbwynt ein hunfed ganrif ar hugain ni. Mae'r set llawn steil syml yn cynnwys bocs deulawr gwyn, trawiadol sy’n troi ac sy’n cynrychioli’r cartref priodasol sydd, mewn gwirionedd, yn caethiwo’r holl ddigwyddiadau, gan gynnwys Butterfly ei hun. Wedi eu gosod yn erbyn cefndiroedd lliwgar dramatig, mae’r gwisgoedd di ffwdan yn eithaf diamser ac nid ydynt yn cynrychioli unrhyw genedl, fel nad ydynt yn amharu ar natur gyffredinol y stori. Mae'r cyfan yn sicrhau mai effaith emosiynol y gerddoriaeth a’r stori drist sy’n cael y prif sylw.

4 Mae’r cynhyrchiad wedi derbyn adborth gwych gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, gyda The Guardian, The Sunday Telepraph a The Times yn rhoi pedair seren iddo. Fe wnaeth cynulleidfaoedd fynegi barn ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy e-bost: ‘Cefais fy hudo, fy ysgwyd yn emosiynol, fy llethu, fy nghodi a’m chwalu, ac roedd yn rhaid i mi ‘sgwennu. Dyma Butterfly bendigedig ar gyfer yr oes bresennol. Rwyf am ddod eto – ac eto ac eto, os yw’n bosib.

5 Dyma’ch cyfle olaf! Roedd dangosiad cyntaf cynhyrchiad Lindy Hume yn rhan o’r dychwelyd i’r llwyfan yn Hydref 2021 a daeth yn ôl i’r llwyfan y Tymor hwn, gan deithio i fwy o leoliadau. Mae dyddiadau’r Gwanwyn yn gyfle arall i weld y portread o stori dorcalonnus Butterfly am gariad digydnabod sy’n destun canmoliaeth gan feirniaid.