A ydych chi'n chwilio am bethau i’w gwneud hefo’r plant? Efallai eich bod yn blentyn mawr eich hun? Naill ffordd neu’r llall, dyma gyfle perffaith - mae Chwarae Opera YN FYW WNO yn sicr o ddod â llawenydd i’ch diwrnod!
Y Tymor hwn, rydym yn mynd â chi ar antur dylwyth teg gyffrous, yn cynnwys eirth, tylwyth teg, ac esgidiau hudolus! Dim ond y cychwyn yw hynny! Dyma bump o bethau i’w gweld a’u gwneud yn Chwarae Opera YN FYW...

Archwilio ein gwisgoedd
Rydym yn dod â dewis o wisgoedd trawiadol o gynyrchiadau blaenorol i chi gael eu gweld yn agos. Cewch edmygu gwaith cywrain ein tîm gwisgoedd arbennig, wrth i chi edrych ar wisgoedd o Così fan tutte, The Magic Flute, a Don Giovanni. Dychmygwch eich hun yn perfformio ar y llwyfan - a fyddech chi’n chwarae rhan Donna Elvira, gan wisgo ffrog felfed foethus, neu ai Papageno fyddech chi, dyn adar gwyllt mewn siaced wedi ei gwneud o blu oren?
Dyluniwch eich celfi ein hun
A oes gennych blant sydd wrth eu bodd â chelf a chrefft? Dewch â nhw hefo chi, a chânt fod yn greadigol, gan arbrofi ag amrywiaeth o ddeunyddiau i wneud eu celfi ffon hud eu hunain. Byddwn hefyd yn cynnig peintio wynebau, i’r rhai sydd am ychwanegu ychydig o liw a sglein i’w diwrnod!

Ymunwch â ni ar helfa drysor
Os ydych yn ystyried eich hunan fel tipyn o dditectif, yna mae’n amser i brofi’ch sgiliau. Dilynwch ein llwybr cyffrous o gliwiau a darganfod oes gennych yr hyn sydd ei angen i ddod o hyd i'r trysor cudd. Pa ffordd well i ddod â’r teulu ynghyd?
Cewch brofi ein gorsafoedd goleuo a sain
Os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, rydym yn darparu cyfle i ddod i weld ein gorsafoedd goleuo a sain. Cewch wylio a dysgu wrth i’n staff cefn llwyfan medrus rannu cyfrinachau’r grefft, cyn cael profiad ymarferol eich hun, gan greu hud tu ôl i’r llenni.

Cewch wylio sioe gyfareddol a gwrando ar gerddoriaeth wych a chanu
Ni fyddai'n Chwarae Opera YN FYW heb berfformiad gwych! Mae hon dilyn hanes Telor, dyn ifanc sydd wedi colli ei esgidiau hudolus. Hebddynt, nid yw’n gallu canu na dawnsio, sy’n ei adael mewn trallod. Fodd bynnag, mae ei ffrind Gwilym yn benderfynol o helpu Telor i gael hyd iddynt. Gyda’i gilydd, mae’r ddau yn mynd ar antur gyffrous i chwilio am yr esgidiau, gan gwrdd â phob math o ffrindiau yn ystod eu teithiau.
Mae’r perfformiad yn llawn cerddoriaeth, gan gynnwys addasiad cerddorol Ian Stephens o’r llyfr plant We’re Going on a Bear Hunt ac O sole mio, a berfformiwyd gan yr enwog Pavarotti. Cafodd Lacrimosa o Requiem Mozart, yn ogystal â’r Flower Duet hyfryd o’r opera Lakmé, eu cynnwys hefyd. Rydym yn addo syfrdanu cynulleidfaoedd hen ac ifanc, gyda’r darnau amrywiol hyn a llawer mwy.
Os ydych am ymuno yn yr hwyl, dewch draw i un o’n sioeau yng Nghaerdydd, Southampton neu Plymouth.