Wrth sôn am arweinydd, sut ddarlun sy’n dod i’ch meddwl; breichiau’n symud yn wyllt, hen ddyn mewn siwt yn chwys diferol? O ble ddaethant, ac ar gyfer beth maent yn cael eu defnyddio? Wel, does dim angen ichi bendroni mwyach, mae tîm WNO yma i’ch helpu. Mae arweinwyr yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn y gerddorfa'n chwarae ar yr un amser, ac, yn bwysicaf oll, eu bod yn dechrau ar yr un pryd.
1. Yr arweinydd cyntaf i’w nodi mewn hanes yw Pherekydes o Patrae, yr oedd pobl hen Wlad Groeg yn ei alw’n ‘Rhoddwr Rhythm’. Mae adroddiad o 709 CC yn ei ddisgrifio’n arwain grŵp o 800 o gerddorion drwy daro ffon aur.
2. Rhwng yr 16eg a’r 18fed ganrif, roedd arweinwyr yn defnyddio ffon bren, chwe throedfedd o hyd, i daro’r ddaear i gadw amser. Roedd hyn yn effeithiol iawn oherwydd gallai’r cerddorion ei glywed. Ond, yn anffodus tarodd y cyfansoddwr, Jean-Baptiste Lully, ei droed yn lle’r ddaear, datblygodd fadredd ac fe fu farw. Oherwydd hynny, daeth pobl i ddefnyddio baton, a oedd yn llai peryglus o lawer.
3. Nid oedd yr arweinydd enwog, Leonard Bernstein, hyd yn oed angen baton; roedd yn arwain gan ddefnyddio’i ddwylo’n unig i gael canlyniadau gwych gan y gerddorfa.
4. Roedd Pyotr Llyich Tchaikovsky, cyfansoddwr ac arweinydd o Rwsia, yn dioddef o hypocondria. Roedd ganddo ofn pe bai’n colli ei afael ar ei ên, y byddai ei ben yn syrthio i ffwrdd! Roedd hefyd yn gwrthod yfed unrhyw beth nad oedd mewn potel, rhag iddo ddal afiechyd. Yn eironig, yn 1893, cafodd ddiagnosis o golera, ac fe fu farw’r diwrnod dilynol.
5. Yn enwog iawn – ac yn gyhoeddus iawn – cerddodd un o arweinwyr mawr yr 20fed ganrif, Wilhelm Furtwängler, allan o gyngerdd a gynhaliwyd gan ei gyd-faestro, Artuto Toscanini dan ddatgan: ‘Dyw’r dyn hwn yn ddim ond curwr amser!’