Newyddion

O Fienna, gyda chariad

16 Rhagfyr 2022

Mae fformat cyngerdd blwyddyn newydd Fiennaidd yn draddodiad cadarn sydd wedi para 100 mlynedd. Bydd cyngerdd Blwyddyn Newydd disglair a diddorol Cerddorfa WNO yn dychwelyd ym mis Ionawr 2023, ac yn archwilio tirlun cyfoethog cerddoriaeth Fienna, gan gymysgu campweithiau llai adnabyddus gyda hen ffefrynnau. Cawsom sgwrs gyda'r Blaenwr a'r Cyngerddfeistr, David Adams, i ddysgu mwy am y dathliad cyfareddol hwn o gerddoriaeth.

'Mae traddodiad hir o ddechrau'r flwyddyn newydd gyda chyngerdd o waltsiau a pholcas. Gyda cherddoriaeth sydd mor galonogol a hudolus, mae'n creu ymdeimlad llawen, arbennig. Fe allwch wylio'r digwyddiad ar y teledu, ond nid oes unrhyw beth tebyg i'w brofi'n fyw. Ychwanegwch y wefr o glywed y gerddorfa ar ei ffurf fwyaf pur, ac rydych yn sicr o gael profiad cwbl ddirdynnol.

Yn bersonol, rwyf wrth fy modd â'r waltsiau, mae elfen mor wreiddiol a hardd i'r gerddoriaeth sy'n anodd i mi ei hanwybyddu. Roeddem yn awyddus i gynnwys Seid umschlungen Millionen! gan Strauss II neu Be Embraced, You Millions! yn y rhaglen eleni. Walts sydd â melodïau hynod o hardd sydd fel cofleidiad cerddorol. Gan ein bod wedi mynd cyhyd heb gofleidio'n gorfforol, roeddem eisiau ei gynnwys gan mai dyma'r peth agosaf at gofleidio ein cynulleidfaoedd allwn ni ei wneud, gyda'n sain a'n cerddoriaeth. Roeddem hefyd eisiau gwneud i'r gynulleidfa chwerthin, a dylai swynwyr a swyn y polcas wneud ichi chwerthin yn uchel. 

Mae rhai o'r darnau'n hynod o gyfarwydd. Defnyddiwyd The Blue Danube yn 2001: A Space Odyssey. Mae The Radetzky March yn adnabyddus yn syth, ond mae hyd yn oed arddull a sain y gerddoriaeth sy'n llai cyfarwydd yn gwneud ichi deimlo eich bod eisoes yn gyfarwydd â hi. Nid yw enw Korngold yn cael ei gysylltu â chyngerdd blwyddyn newydd bob amser, fodd bynnag, roedd y brodor hwn o Fienna yn rhyfeddod hynod cyn datblygu enw da iddo'i hun drwy ei sgoriau ffilm, gyda Robin Hood Errol Flynn yr un enwocaf. Yma, mae'n talu teyrnged i Strauss yn ei ddarn hyfryd Straussiana sy'n cipio'r holl geinder, synnwyr, a swyn Strauss, ond drwy lens fawreddog Hollywood y 1920au. 

Mae pob lleoliad ar y daith hon yn cynnig rhywbeth arbennig i ni, p'un a ydym yn ymweld â'n dinasoedd partner yn ne Cymru yn Nhyddewi, Abertawe, cefn gwlad hardd gogledd a chanolbarth Cymru ar ein teithiau i Fangor a'r Drenewydd, y cyfarwydd-deb o ddychwelyd i un o'n dinasoedd teithio opera rhyfeddol yn Southampton, archwilio tirwedd odidog de-orllewin Lloegr yn Truro a Barnstaple, neu'n chwarae yn ein cartref yn neuadd gyngerdd anhygoel Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Rydym wrth ein bodd yn gwneud ffrindiau newydd ac mae pob cynulleidfa'n cynnig rhywbeth arbennig.'

Bydd taith Dychwelyd i Fienna Cerddorfa WNO yn ymweld ag Abertawe, Bangor, y Drenewydd, Truro, Barnstaple, Caerdydd, Southampton a Thyddewi rhwng 5 – 21 Ionawr 2023.