Newyddion

Dod i nabod...Cadeirydd newydd WNO

17 Chwefror 2020

Fis Hydref y llynedd penodwyd Yvette Vaughan-Jones yn Gadeirydd newydd Opera Cenedlaethol Cymru. Dyma'r tro cyntaf yn hanes y Cwmni i fenyw gael ei phenodi yn y swydd hon. Cawsom sgwrs gyda hi i ddod i ddysgu mwy am ei chefndir a'i chariad o opera.


Beth oedd eich profiad cyntaf o opera?
Byddwn yn arfer mynd gyda ffrind ysgol i mi pan oeddwn tua 16 mlwydd oed i'r Coliseum yn Llundain.  Byddem yn ciwio am y tocynnau a oedd ar ôl ac yn mynd i weld beth bynnag oedd yn cael ei gynnal - Carmen a Love of Three Oranges yw'r perfformiadau mwyaf cofiadwy a welsom.

Beth yw eich hoff fath o opera a pham?
Rwy'n hoff o gynyrchiadau opera unigryw a hoffaf weld dehongliadau pobl o'r straeon.  Roeddwn i'n meddwl bod cynhyrchiad eleni o Carmen gan WNO dan gyfarwyddyd Jo Davies yn ddifyr iawn ac rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth Mozart.

Yn eich barn chi, beth mae opera yn ei gyflwyno i'r llwyfan?
Yr ateb amlwg yw'r cyfuniad o gymaint o ffurfiau ar gelfyddyd, y gerddoriaeth, y llais a'r dyluniad, ond rwy'n meddwl mai'r cysylltiad emosiynol drwy adrodd straeon gan ddefnyddio'r llais dynol sydd mor ysgogol.

Pa brofiad ydych chi'n ei gynnig i'r Cwmni?
Rwyf wedi gweithio yn y celfyddydau ers tri degawd ac wedi bod yn arbenigwr a chyffredinolwr. Rwyf wedi gweithio ym maes y celfyddydau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Yn fy sawl swydd amrywiol, rwyf wedi ceisio gweithio'n lleol iawn, yn cysylltu pobl â'u cymdogaethau yn ogystal ag yn rhyngwladol. Felly credaf mai dyma'r tri phrif beth y gallaf eu cynnig - gwybodaeth eang o'r celfyddydau yn gyffredinol, profiad o weithio gyda grwpiau a chymunedau lleol, a meddu ar bersbectif rhyngwladol.

Fe aethoch chi i Japan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd - sut brofiad oedd hynny?
Arbennig. Mae fy nheulu oll, fel sawl un yng Nghymru, yn gefnogwyr rygbi brwd yn ogystal â chefnogwyr y celfyddydau a diwylliant. Fe gawsom ni amser gwych. Nid oeddwn wedi bod i Japan o'r blaen, ond roeddwn wedi bod i lefydd cyfagos, i Korea a Tsieina etc. ac eto mae Japan yn wahanol iawn ac yn hynod ddifyr, o ran ei diwylliant traddodiadol a chyfoes.  Lle bynnag yr oeddem yn mynd, byddai'r bobl Japaneaidd yn cofleidio Cwpan y Byd. Cawsom groeso cynnes yno.  Roedd harddwch naturiol y lle yn syfrdanol hefyd.

Heblaw am y celfyddydau a rygbi, pa hobïau a diddordebau sy'n agos at eich calon chi?
Rwyf wrth fy modd yn dysgu mwy am wledydd a diwylliannau eraill - drwy ddarllen, gwylio ffilmiau neu deithio. Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau chwarae golff - rwy'n cael modd i fyw, er nad wyf yn cael llawer o hwyl arni.

I ba gyfeiriad hoffech chi weld WNO yn mynd yn y dyfodol?
Hoffwn ei weld yn goresgyn mwy o rwystrau ac yn ymgysylltu ystod ehangach o bobl. Dod yn fwy perthnasol i fwy o bobl yw'r her fawr i'r sector yn gyffredinol ac mae WNO yn ymwybodol iawn o hynny ac yn awyddus i arwain y ffordd drwy oresgyn y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad a mwynhad.