Newyddion

Dod i adnabod Will Todd

23 Mehefin 2022

Yn ystod Tymor Haf 2022 Opera Cenedlaethol Cymru, bydd ein hopera newydd, Migrations, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf. Mae Will Todd yn gyfansoddwr o Brydain, ac mae wedi defnyddio cyfrwng cerddoriaeth i blethu'r chwe stori sy'n cael eu dehongli yn yr opera hon, a chynhelir y noson agoriadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ddydd Mercher 29 Mehefin. Byddwn yn manteisio ar y cyfle i ddod i wybod ychydig mwy amdano, a sut y canfyddodd ei alwedigaeth gerddorol. 

'Roedd y piano yn ein cartref yn obsesiwn gennyf, ac er i mi fod yn ddim o beth, rwyf wedi caru gwrando ar bob math o gerddoriaeth. Roeddem yn arfer gwrando ar gerddoriaeth opera, clasurol, pop, roc, jazz, gwerin a chorawl ar ein haelwyd. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fod fy mam a fy nhad wedi bod â blas mor eclectig ar gerddoriaeth.'

Ganwyd Will Todd yn Swydd Durham yn 1970, ac fe astudiodd yn Ysgol Durham wedi iddo dderbyn ysgoloriaeth gerdd lawn. Roedd yn aelod o gôr Eglwys St Oswald's, Durham dan arweiniad y côr-feistr David Higgings. Aeth ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Bryste. 

Mae portffolio o weithiau Will yn cynnwys popeth o gantatas ac oratorios i ddarnau cerddorfaol. Llaw yn llaw â'i waith clasurol, mae hefyd yn bianydd jazz medrus ac mae'n perfformio'n aml gyda'i Ensemble jazz. Mae wedi dod yn adnabyddus am ei gymysgfa o arddulliau a'i ddylanwadau. Mae ei waith, Mass in Blue (2003), sy'n boblogaidd hyd heddiw'n cyfuno cerddoriaeth gorawl a jazz. Mae Alice’s Adventures in Wonderland a Migrations hefyd yn arddangos yr arddull hwn. 

'Migrations yw'r darn mwyaf cymhleth i mi weithio arno erioed. Rwyf wedi ceisio ychwanegu cymeriad cerddorol unigryw i bob stori ar yr un pryd â cheisio dod o hyd i themâu all roi bywyd i'r sioe gyfan, sy'n ychwanegu'r ymdeimlad o gysylltioldeb drwy gydol y perfformiad cyfan.'

Wrth fynd ati i ddechrau cyfansoddi, bydd Will yn dechrau ar y biano, gan osod y geiriau, os yw'n ddarn â geiriau, o'i flaen, a byrfyfyrio wrth ddarllen - neu ganu; bydd cordiau a syniadau alawol yn amlygu'u hunain wrth iddo chwarae. 

'Rwy'n credu mai'r byrfyfyrio a'r arbrofi ar y piano wnaeth i mi ddechrau meddwl am gyfansoddi cerddoriaeth yn y lle cyntaf. Rwy'n aml yn gofyn "sut wnes di huna" wrth wrando ar gân neu ddarn o gerddoriaeth. Debyg mai chwilfrydedd yw hynny. Ond rwy'n dal i fwynhau perfformio, am ei fod yn deimlad gwahanol i gyfansoddi.'

Yn ei swydd fel cyfansoddwr, mae Will wedi gweithio gydag Opera North, Opera Holland Park, ac WNO, The Sixteen, Tenebrae, BBC Concert Orchestra, The Halle Orchestra a'r English Chamber Orchestr, ymhlith eraill, ac wedi cyfansoddi'r anthem, The Call of Wisdom, a gafodd ei chomisiynu ar gyfer gwasanaeth Jiwbilî Diemwnt Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Pe allai fod yn unrhyw offeryn mewn Cerddorfa, beth fyddai'n ei ddewis? 'Trwmped. Sawl uchafbwynt, ond digon o amser i gael fy ngwynt!'

Perfformir Migrations am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ddydd Mercher 29 Mehefin gyda pherfformiad dilynol ddydd Gwener 1 a dydd Sadwrn 2 Gorffennaf. Mae'r opera hefyd yn ffurfio rhan o'n Tymor Hydref 2022, a bydd yn dod i Landudno, Plymouth, Birmingham a Southampton gan ddilyn perfformiad arall yng Nghaerdydd.