Newyddion

Giacomo Puccini – bywyd wedi'i neilltuo i opera

16 Awst 2021

Ganwyd Giacomo [Antonio Domenico Michele Secondo Maria] Puccini yn Lucca, Twsgani ar 22 Rhagfyr 1858, ac mae’n un o’r cyfansoddwyr operatig gorau erioed.

Ymroddodd ei hun i gerddoriaeth yn ifanc iawn, a dechrau dysgu ambell beth gan ei ewythr pan oedd yn bump oed. Parhaodd ei gariad at gerddoriaeth nes cyrhaeddodd ei arddegau. Daeth o hyd i’w wir gariad – opera - yn 1876, ar ôl gweld perfformiad o Aida gan Verdi ym Mhisa, a throdd ei gefn ar draddodiad teuluol oedd wedi bodoli ers 124 o flynyddoedd o fod yn gyfarwyddwr cerddorol yn Eglwys Gadeiriol Lucca, San Martino.

Cafodd ei dderbyn i Milan Conservatory i astudio gydag Amilcare Ponchielli ac Antonio Bazzini. Graddiodd yn 1883, ac ar ôl hynny fe gyfansoddodd waith offerynnol - Capriccio sinfonico. Cafodd ei opera gyntaf - Le villi - ei chyfansoddi a’i gwrthod gan Gystadleuaeth Sonzogno. Y flwyddyn ganlynol, fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr Verme, Milan, ac roedd yn llwyddiant ysgubol a denodd sylw’r cyhoeddwr cerddoriaeth Giulio Ricordi, gan gomisiynu Puccini i ysgrifennu opera newydd ar gyfer La Scala. 

Roedd ail opera Puccini, Edgar, yn seiliedig ar ddrama gan Alfred de Musset, awdur o Ffrainc, ac fe’i perfformiwyd yn La Scala yn 1889. Roedd yn fethiant llwyr. Er hynny, parhaodd Ricordi i gael ffydd yn y cyfansoddwr ifanc, ac fe anfonodd Puccini i Bayreuth i wrando ar Die Meistersinger von Nürnberg gan Wagner. Dychwelodd Puccini gyda chynllun ar gyfer Manon Lescaut - opera oedd yn portreadu cariad Manon Lescaut a Des Grieux yn ystod yr 18fed ganrif yn Ffrainc.

Mae La bohème yn un o’r operâu enwocaf erioed, ac mae’n dilyn stori gofiadwy dau gariad ifanc bohemaidd yn Ffrainc. O fewn ychydig flynyddoedd ar ôl ei pherfformio am y tro cyntaf yn Teatro Regio, Turin yn 1896, roedd wedi cael ei pherfformio yn bron pob tŷ opera yn Ewrop a’r Unol Daleithiau. Pedair blynedd yn ddiweddarach, cyfansoddwyd Tosca (1900), ac yna Madam Butterfly(1904) – gweithiodd Puccini gyda’r awduron Giuseppe Giacosa a Luigi Illica ar gyfer yr operâu hyn. 

Wedi treulio haf 1908 yn Cairo, canolbwyntiodd Puccini’n llwyr ar ei opera nesaf, La fanciulla del West. Ym mis Rhagfyr 1910, cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac yn nodi diwedd cyfnod aeddfed Puccini. Yn 1917 gwelwyd perfformiad cyntaf La rondine, ond fe anghofiwyd am yr opera yn gyflym iawn.

Roedd gan Puccini ddiddordeb mawr mewn opera gyfoes, ac fe astudiodd waith Claude Debussy, Richard Strauss, Arnold Schoenberg ac Igor Stravinsky. O ganlyniad i hyn, cynhyrchwyd Il trittico - casgliad o dair opera un act: melodrama sinistr Il tabarro; trasiedi grefyddol deimladwy Suor Angelica; ac opera gomig Gianni Schicchi.

Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn gweithio ar ei opera olaf, Turandot - yr unig opera Eidaleg yn yr arddull Argraffiadol. Ni chafodd orffen yr opera honno. Yn 1923, cafodd Puccini ddiagnosis o gancr marwol yn y gwddf, a bu farw ym Mrwsel y flwyddyn ganlynol, tra roedd yn gweithio ar y ddeuawd gariadus olaf. Perfformiwyd fersiwn gyflawn o’r opera, gan Franco Alfano, am y tro cyntaf yn La Scala ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Claddwyd Puccini yn wreiddiol yn Milan, ond yn 1926 symudwyd ei gorff i’w hen ystâd yn Torre el Lago. Cynhelir Gŵyl Puccini yno’n flynyddol i goffau eu trigolyn enwocaf.