Bob blwyddyn ar 25 Ionawr, yma yng Nghymru rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen, i gofio am y dywysoges Gymreig a gefnodd ar gariad ei hun er mwyn i ni gyd fod yn ffodus yn ein hymdrechion rhamantaidd.
Roedd Dwynwen un o 24 o ferched Brenin Brychan Brycheiniog, credir iddi gael ei geni yn y 5ed ganrif yn Aberhonddu. Yn ôl y chwedl, syrthiodd Dwynwen mewn cariad â bachgen lleol o'r enw Maelon, ond oherwydd ei statws isel, a'r ffaith fod Dwynwen wedi cael ei haddo i rywun arall, gwaharddodd ei thad hi rhag ei briodi. Yn ei ddicter, mae Maelon yn treisio Dwynwen.
Mewn trallod, mae Dwynwen yn ffoi i'r goedwig gyfagos ac yn wylo, ac yn erfyn ar Dduw i'w helpu ac mewn ymateb, mae angel yn ymddangos o'i blaen, yn cynnig diod felys iddi i'w helpu i anghofio am Maelon. Mae’r ddiod yn rhewi Maelon yn dalp o rew, ac mae Duw yn siarad â Dwynwen ac yn cynnig tri dymuniad iddi.
Gyda’i dymuniad cyntaf mae hi’n dadrewi Maelon, ac yn ei ryddhau o’i dranc oer. Mae hi’n defnyddio ei hail ddymuniad i annog Duw i helpu pob gwir gariad, wrth iddi ddewis cefnu ar ramant ei hun â'i thrydydd dymuniad; na fyddai hi byth yn priodi. Er mwyn diolch i Dduw, teithiodd Dwynwen i Ynys Môn a dod yn lleian, gan adeiladu lleiandy ar Ynys Llanddwyn. Mae ei adfeilion yn dal i sefyll hyd heddiw.
Mae hanes Santes Dwynwen wedi bod yn hysbys ledled Cymru ers canrifoedd. Ysgrifennodd un o feirdd Cymraeg amlycaf y canol oesoedd, Dafydd ap Gwilym, am ei phrydferthwch ac erfyn am ei chymorth yn ei ymgais i ddod o hyd i gariad. Ysgrifennodd y prifardd Benjamin Williams, sy’n cael ei adnabod wrth ei ffugenw Gwynionydd, y geiriau i gyfansoddiad ar gyfer Côr Meibion, yn dwyn y teitl Dwynwen, a ysgrifennwyd ar gyfer cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Joseph Parry ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1886 yn Llandudno. Roedd Joseph Parry hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu’r gerddoriaeth ar gyfer emynau enwog fel ‘Aberystwyth’ a ‘Myfanwy’, mae’r ddau’n cael eu canu’n aml gan Gorau Meibion ledled Cymru. Gellir olrhain traddodiad corau Meibion Cymru yn ôl i’r 18fed ganrif, a chwaraeodd y corau hyn ran hollbwysig mewn cadw’r caneuon yng nghof y cyhoedd. Mae ein hopera newydd, Blaze of Glory! yn adrodd hanes criw o lowyr sy’n ailffurfio eu Côr Meibion yn sgil trychineb glofaol. Gallwch ddilyn eu hantur a phrofi emynau ac ariâu clasurol Cymraeg wrth i ni gychwyn ar daith y Gwanwyn hwn.
Mae cariad yn thema sy’n treiddio drwy operâu o’r cychwyn cyntaf, ac mae’n thema ganolog yn opera glasurol Mozart, The Magic Flute. Rhaid i’n prif gymeriad Tamino gwblhau profion yn nheyrnas yr Haul i fod yn deilwng o gariad y dywysoges Pamina. Mae ei gydymaith, Papageno yn treulio’r opera yn chwilio am gariad. Mae’r straeon hyn i’w gweld yn ein cynhyrchiad newydd oThe Magic Flute, sy’n teithio fel rhan o’n Tymor y Gwanwyn, gan ddechrau yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.