Newyddion

Penblwydd hapus WNO

15 Ebrill 2021

Ar y diwrnod hwn (15 Ebrill) yn 1946, roedd Opera Cenedlaethol Cymru yn paratoi i godi'r llenni ar gyfer perfformiadau llwyfan llawn cyntaf y Cwmni - Cavalleria rusticana a Pagliacci yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd.  Dyma oedd benllanw tair blynedd o waith caled gan grŵp bach o bobl a ddaeth at ei gilydd yn 1943 i sefydlu cwmni opera cenedlaethol.

Yn y dyddiau hynny, pan gynhaliwyd cyfarfodydd yng nghartref y sylfaenydd Idloes Owen yn Station Road, Llandaff, sicrhawyd lleoliad, roedd y prif wisgoedd yn dod o ‘Smith, Manchester’, a llogwyd cefndir gan ‘Capes, London’, a gwnaed gwisgoedd yn arbennig ar gyfer y Corws. Anfonodd Idloes Owen lythyr un mis cyn y noson agoriadol at yr Arweinydd Victor Fleming yn gofyn iddi ddod i Gaerdydd i arwain perfformiad yn ystod ei Dymor cyntaf (Owen ei hun a arweiniodd y perfformiad cyntaf). Perfformiwyd yr adran bale gan Mollie Hair.

Roedd y seddi drytaf (Seddi'r Gerddorfa) yn costio 6/9 (cyfwerth â 34c). Roedd y Cylch Gwisgoedd yn 6 swllt, y Seddi Canol yn 6/4, y Cylch Uchaf yn 3/4 a seddi ger y Pwll yn 3 swllt. Roedd y perfformiadau yn cychwyn am 6.30pm bob nos o'r wythnos honno, gyda pherfformiadau prynhawn ychwanegol ddydd Iau a dydd Sadwrn.

Roedd yr wythnos agoriadol honno hefyd yn cynnwys perfformiadau o Faust - dan arweiniad Ivor John, a ganodd y brif ran yn ddiweddarach yr wythnos honno.

Mae Cavalleria rusticana a Pagliacci wedi ymddangos yn rhaglen Opera Cenedlaethol Cymru drwy gydol y 75 mlynedd diwethaf, gyda'r perfformiad diweddaraf yn digwydd yn 2016 fel rhan o Dymor penblwydd y cwmni yn 70. Er mwyn parhau â'r thema ar gyfer dathliadau eleni, mae Corws WNO yn perfformio Easter Hymn o Cavalleria rusticana mewn fideo ingol sy'n edrych ar daith y Cwmni o'i wreiddiau yn Llandaf i'n cartref modern heddiw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Pennaeth Marchnata a Digidol WNO, Martina Fraser yn dweud wrthym 'Wrth ddewis y darn o gerddoriaeth ar gyfer ein ffilm penblwydd, roedd Emyn y Pasg yn teimlo fel y dewis naturiol, gan fod WNO wedi dod yn gyfystyr â Cav a Pag. Roeddwn hefyd eisiau rhoi Corws hyfryd WNO wrth galon ein gwaith o adrodd y straeon, i gofio am y cantorion a gafodd eu hysbrydoli i greu cwmni opera'r holl flynyddoedd yn ôl, a dathlu'r rheiny sy'n cynrychioli WNO heddiw. Mae'r lleoliadau a welir yn y fideo i gyd yn arbennig o ran hanes y Cwmni. Gan obeithio y byddan nhw'n ennyn atgofion da.’

Yn ogystal, comisiynodd Opera Cenedlaethol Cymru, Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i greu cerdd Cymraeg a Saesneg i goffáu'r foment unigryw hon yn ein hanes. Mae llu o artistiaid o Gymru wedi ymuno â ni i ddarllen y darn mewn dau fideo syfrdanol a grëwyd gan y gwneuthurwr ffilm Alex Metcalfe (A Song for the Future).

Diolch am gefnogi WNO yn ystod ein 75 mlynedd gyntaf. Ewch i’n gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn hon o ddathlu i gael mwy o storiâu o orffennol hynod ddiddorol WNO.