Wedi hir ymaros, bydd Opera Ieuenctid WNO yn cael perfformio ar y llwyfan eto y mis hwn, gyda'u cynhyrchiad o The Black Spider, gan Judith Weir.
Cawsom sgwrs gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Harvey Evans, a raddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac sy'n gyn-aelod o Opera Ieuenctid WNO.
Dywedodd Harvey ei bod hi'n 'braf cael bod yn ôl yng nghwmni Opera Ieuenctid WNO', a dychwelyd i'r man lle dechreuodd ei daith ym myd opera. Yn ystod ei gyfnod fel aelod o Opera Ieuenctid WNO cafodd Harvey ei flas cyntaf ar opera ar ôl ymuno â chorws Paul Bunyan, Benjamin Britten. Ar ôl y profiad hwn, datblygodd chwilfrydedd Harvey yng ngallu opera i 'gyfleu stori gydag emosiwn dwys, gan ein galluogi ni i uniaethu â'r cymeriadau a gyda'r naill a'r llall', a'r ffordd 'mae pŵer emosiynol cryf y lleisiau, y gerddoriaeth a'r llwyfannu yn cyd-greu rhywbeth sy'n fwy cyfoethog na phob adran yn unigol'.
Pan roedd yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, daeth Harvey yn fwyfwy brwd dros gyfarwyddo wrth ymarfer ar gyfer Rossini’s La Cenerentola, ac ar ôl cael sgwrs gyda'r cyfarwyddwr, 'sylweddolais mai dyma roeddwn eisiau dyfal barhau ag o. Drwy fod yn gyfarwyddwr, rydych yn cael cyfle i adrodd straeon diddorol a thanio dychymyg pobl: does dim yn cymharu â hynny!'
Mae cael dod yn ôl i weithio gydag Opera Ieuenctid ar gyfer The Black Spider wedi bod yn brofiad diddorol iawn i Harvey, gan fod Opera Ieuenctid WNO wedi bod yn rhan fawr o'i ddatblygiad, ac oherwydd ei brofiad a'i ddealltwriaeth o rai o'r heriau sy'n wynebu perfformwyr ifanc, mae mewn rôl addas i rannu cyngor a chefnogi ein cyfranogwyr hyfryd wrth iddynt baratoi ar gyfer y cynhyrchiad.
Roedd y bartneriaeth rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn fanteisiol yn ystod cyfnod Harvey yn y coleg. Cafodd nifer o brofiadau proffesiynol drwy'r bartneriaeth honno, gan gynnwys cyfle i weithio gydag WNO ar gyfer Dead Man Walking a Hope has Wings. Drwy'r bartneriaeth hon, mae WNO a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cael cyfle i feithrin dawn operatig ifanc a sicrhau bod y doniau hynny'n ffynnu yma yng Nghaerdydd.
Mae dod yn ôl i weithio gydag WNO wedi bod yn fwy na chyfle i hel atgofion i Harvey - mae gweithio gydag WNO wedi golygu bod yr adnoddau ar gael i arbrofi gyda phypedwaith, pypedwaith cysgod ac animeiddio wrth ddatblygu'r cynhyrchiad. Yr hyn sy'n bwysig i Opera Ieuenctid WNO yw cael gweithio gyda phobl ifanc a meithrin brwdfrydedd dros y theatr ag opera o oed ifanc. Gyda chymorth Harvey, a thrwy ein cynhyrchiad o The Black Spider, rydym wedi gallu cyflawni ein gwaith o ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o berfformwyr.
Hawdd yw deall brwdfrydedd Harvey dros The Black Spider, wrth iddo ddisgrifio'r cynhyrchiad fel 'opera arswydus a doniol, sy'n orlawn o jôcs a throsiadau hunllefus, sy'n wahanol i unrhyw opera arall. Mae rhywbeth ar gael at ddant pawb; mae'n mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau o opera, ac mae ei stori anarferol a'r gerddoriaeth ragorol yn creu profiad cwbl unigryw. Mae'n wahanol iawn i unrhyw beth rydw i wedi'i weld neu wedi gweithio arno o'r blaen, ac rwy'n gwybod y bydd pawb sy'n dod i'w gwylio yn ei mwynhau'n fawr.'
Bydd The Black Spider yn cael ei pherfformio am 3pm a 7pm, dydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Mai, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.