Newyddion

A ydych chi wedi manteisio ar ein perfformiadau Disgrifiad Clywedol?

12 Mehefin 2018

La traviata yw ein cynhyrchiad disgrifiad clywedol yr Hydref hwn...

Os ydych chi’n caru opera â nam ar eich golwg neu’n cael trafferth darllen uwchdeitlau ac nid ydych wedi rhoi cynnig ar un o’n perfformiadau disgrifiad clywedol o’r blaen, yna beth am roi cynnig arni yr Hydref hwn?

Unwaith eto rydym yn cynnig disgrifiad clywedol fel rhan o berfformiadau mewn tri lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, y Bristol Hippodrome a Birmingham Hippodrome, ar gyfer perfformiadau o La traviata ac ynghyd â’r disgrifiad clywedol, bydd un o’n teithiau cyffwrdd ar gael hefyd.

Darperir ein disgrifiadau clywedol gan ein disgrifwyr cyfeillgar a gwybodus o Sightlines sydd wedi bod yn cydweithio â ni ers blynyddoedd ac sy’n gwybod beth yn union sydd ei angen arnoch i gael y mwyaf allan o’ch opera ddewisol. Drwy eich clustffonau, byddant yn eich tywys drwy’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan, o’r hyn mae cantorion yn ei wisgo i fynegiannau wynebol neu hyd yn oed os oes yna frwydr ar y llwyfan! Y syniad yw darparu sylwebaeth ar yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan, gan gymryd gofal yn amlwg i beidio â thorri ar draws y canu.

Nid chodir tâl ychwanegol i gymryd rhan. Gall ychwanegu llawer mwy at eich noson, hefyd, os ydych chi’n archebu Taith Gyffwrdd cyn y perfformiad gallwch gael profiad fel aelod o’r cast o’r set a’r gwisgoedd.

Arweinir ein Teithiau Cyffwrdd gan un o’n Rheolwyr Llwyfan, Julia Carson Sims, felly mae hi wedi ei lleoli’n berffaith i rannu holl gyfrinachau llwyfannu’r grefft. Mae’r teithiau yn rhoi cyfle i chi fynd ar y llwyfan a chyffwrdd rhannau o’r llwyfan, celfi a gwisgoedd enghreifftiol, i’ch helpu chi gael syniad o faint, manylion a safle’r cynhyrchiad ar gyfer y perfformiad.

Yn ystod y Gwanwyn aeth rhai blogwyr ar daith i gael syniad o’r hyn sydd i’w ddisgwyl - edrychwch i weld beth oedd barn Musical Theatre Lives In Me a Behind The Curtains. Mae’n braf lledaenu’r neges ymhlith selogion theatr bod cyfleoedd o’r fath yn bodoli, i gyflwyno opera i gymaint o bobl ag sy’n bosibl.

Gallwch wrando ar ddisgrifiad wedi ei recordio ymlaen llaw ar ein gwefan cyn mynychu, felly cadwch lygad ar ein tudalen Perfformiad Mynediad i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau i ddod.