Newyddion

Sut mae cyd-gynhyrchiad yn gweithio?

19 Mai 2020

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn llwyfannu amrywiaeth o gynyrchiadau mewn tymor arferol, yn cynnwys cyd-gynyrchiadau. Mae'r enw yn dweud y cyfan: cynhyrchiad (e.e. cysyniad ar gyfer set, goleuadau, coreograffi, gwisgoedd, propiau, wigiau a cholur ar gyfer opera) wedi ei greu gan fwy nag un cwmni opera. Fel arfer, bydd un cwmni yn arwain y gwaith - y cwmni a gyflwynodd y syniad fel arfer - ac yna bydd contractau yn cael eu ffurfio a chyllidebau yn cael eu trefnu; fel mae Robert Pagett, Pennaeth Cynhyrchu WNO yn egluro:

'Ar gyfer y rhan fwyaf o gyd-gynyrchiadau bydd y gost yn cael ei haneru'n gyfartal, gyda'r cwmni sy'n arwain yn cymryd cyfrifoldeb am gadw popeth sydd ei angen ar gyfer y cynhyrchiad. Bydd nifer o ffactorau yn dylanwadu ar bwy sy'n adeiladu'r set: os oes gan un o'r cwmnïau weithdy mewnol efallai y byddant yn adeiladu'r set, ac yna dim ond costau'r deunyddiau fydd angen ei dalu.

Cyn dechrau adeiladu, bydd y timau technegol yn cyfarfod i drafod y logisteg; tynnu sylw at faint bob lleoliad, gofynion teithio, deunyddiau, beth ellir ei ddarparu'n fewnol, maint a phwysau darnau unigol o'r set, amser adeiladu, a oes angen arbenigedd technegol allanol, gofynion goleuo arbennig (LX) ac ati. Bydd unrhyw addasiadau sy'n cael eu hawgrymu gan y naill gwmni hefyd yn cael eu hystyried yn y cam cyntaf hwn.'

Gan fod WNO yn gwmni sy'n teithio, mae maint y llwyfan a mannau llwytho ar gyfer bob lleoliad yn amrywio'n sylweddol. Gan fod ein llwyfan preswyl a mannau cefn llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn llawer mwy na nifer o'n lleoliadau, mae ein cynyrchiadau fel arfer yn amrywio mewn maint, a gan amlaf, mae'r set a ddefnyddir yng Nghaerdydd yn fwy na'r fersiynau a ddefnyddir ar daith.

Corws WNO ar y llwyfan

Mae Sian Price, Pennaeth Gwisgoedd WNO, yn disgrifio sut mae gwisgoedd yn dod at ei gilydd:

'Mae'r canllaw gwisgoedd yn cyrraedd ymlaen llaw (gan y cwmni arwain), ac mae'n cynnwys yr holl wybodaeth ar gyfer cynhyrchu'r gwisgoedd; dyluniadau; crynodeb o'r cymeriadau a threfn ymddangos; mesuriadau; gwybodaeth fanwl ar ddefnyddiau - gyda samplau, cyflenwyr, etc.

Mae gwisgoedd yn cael eu hanfon ar fachau mewn bocsys ar ffurf cwpwrdd dillad. Mae popeth yn cael ei wirio yn ôl y rhestr pecynnu, hyd yn oed y cyfflincs a hancesi poced. Yna maent yn cael eu gwirio am unrhyw ôl traul ac yn cael eu haddasu yn barod i'w gwisgo. Fel rheol, bydd y corws yn treialu'r gwisgoedd gyda'r dylunydd yn ystod y tymor blaenorol. Nid oes llawer o amser i addasu'r gwisgoedd, gan nad ydynt yn cyrraedd tan y diwrnod cyntaf o ymarferion. Ar ôl y daith, caiff y gwisgoedd eu hail-bacio, gan ychwanegu unrhyw rai newydd a wneir ar gyfer y sioe - mae cyd-gynyrchiadau fel arfer yn tyfu mewn maint bob tro maen nhw'n mynd at un o'r cyd-gynhyrchwyr.'

Yn dibynnu ar le mae'r sioe yn mynd ar ôl y perfformiad, mae'r gwisgoedd yn cael eu llwytho ar ôl-gerbydau neu mewn cynhwysydd yn barod i'w cludo i America neu Awstralia, er enghraifft; yn barod ar gyfer set arall o ymarferion a pherfformiadau gyda chyd-gynhyrchydd.