Newyddion

Sgwrs gydag Elizabeth Llewellyn

17 Mawrth 2022

Y Gwanwyn yma bydd llwyfaniad enwog Katie Mitchell o Jenůfa gan Janáček yn dychwelyd i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r opera hon wedi bod yn chwarae gyda’n hemosiynau ers ei pherfformiad cyntaf ym mis Ionawr 1904 ac fe'i disgrifiwyd gan y cyfarwyddwr fel yr opera sebon eithaf. Siaradom gyda’r brif actores, Elizabeth Llewellyn, sy’n perfformio’r brif ran am y tro cyntaf y Tymor hwn. 

Sut fyddech chi'n disgrifio cymeriad Jenůfa? 

 Gwraig ifanc ddefosiynol a chlyfar (llythrennog) yw Jenůfa, sydd wedi tyfu i fyny mewn cymuned wledig fechan, ond mae perchennog ifanc y felin leol wedi troi ei phen. Pan mae’r opera'n dechrau, mae hi wedi bod yn byw mewn cyflwr parhaus o ofn ac euogrwydd annioddefol sy'n ei gwneud hi'n nerfus ac yn dueddol o gael ffrwydradau. Mae hi’n ddibynnol ar bawb o’i chwmpas, felly mae hi’n tueddu i ymddiried mewn pobl yn rhy hawdd. Mewn llawer o ffyrdd mae hi’n debyg iawn i gymeriad Luisa Miller gan Verdi (y rhan olaf i mi ei pherfformio cyn y pandemig), ac ar ddiwedd yr opera mae Jenůfa yn datblygu’r un aeddfedrwydd emosiynol a statws a welir gan Luisa Miller yn nrama Schiller o’r un enw. 

Rydych yn enwog am eich portreadau bywiog o arwresau Puccini a Verdi. Beth wnaeth eich denu at waith Janáček? 

 Rwyf wedi bod yn chwilio am gyfle i chwarae rhan Jenůfa ers blynyddoedd. Ar ôl astudio’r sgôr a gwrando ar recordiadau, roeddwn i wir yn gallu clywed fy hun yn canu’r rhan. Mae’n eistedd yn gyfforddus iawn yn fy llais. Yr her fwyaf oedd dysgu’r Tsieceg a gwneud yn siŵr y gallaf ganu’n dda yn dechnegol yn ogystal ag ieithyddol. 

Sut ydych wedi mynd ati i baratoi’r cymeriad? 

 Un o’r pethau cyntaf rwyf yn gwneud wrth baratoi i chwarae rhan newydd yw ceisio ei chymharu â sefyllfaoedd dramatig tebyg yr wyf wedi’u chwarae yn y gorffennol. Yn ddiddorol, o’r saith rhan Puccini rwyf wedi’u canu, mae dros hanner ohonynt yn delio â thema colli plentyn (Suor Angelica a Giorgetta/ Il Tabarro), neu fod heb blant (Magda / La Rondine), neu hunanaberth er mwyn plentyn (Madam Butterfly), felly roedd gennyf fan cychwyn i ddadansoddi colled Jenůfa. Ar ôl dweud hynny, rwyf wedi gorfod rhoi fy mywyd fel menyw annibynnol yn yr 21ain ganrif i naill ochr a mynd i mewn i fyd merch ifanc cefn gwlad ar ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau’r 20fed ganrif, a cheisio deall pam fod Jenůfa yn ymddwyn fel y mae hi ac yn dweud y pethau mae hi'n eu dweud. Fy nod bob amser yw bod yn eiriolwr da, gwir a chredadwy dros y rhan rwy’n ei chwarae, felly mae cymryd amser i feddwl am y cymeriadau a’i chymhellion yn rhan hanfodol o fy ngwaith paratoi.

Pa ddarnau ydych chi’n edrych ymlaen at eu perfformio? 

Mae gen i ddau hoff foment gerddorol: y gyntaf yw'r ensemble mawr yn Act 1 - Každý párek si musí - sy'n llawn dioddefaint Slafig ond mae’n fy nharo fel bod yn eithaf Verdiaidd ei arddull; yr ail yw gweddi Jenůfa yn Act 2 - Zdrávas královno - mae mor dyner a thryloyw, eiliad o harddwch a llonyddwch. 

Pam ddylai pobl ddod i weld Jenůfa

Fel stori, dylai wneud i bawb - yn enwedig merched - feddwl am sut y gallant ymateb pe byddent yn canfod eu hunain mewn sefyllfa debyg. Mae’n ymdrin â themâu mawr (ond cyfarwydd) megis teulu, strwythurau cymdeithasol a moesau, cariad, cenfigen, y berthynas rhwng mam a merch, crefydd ac ati. Ar un llaw mae’n hynod ddealladwy, ac ar y llaw arall mae’n rhoi drama angerddol ar raddfa operatig.