Newyddion

Isabella Bywater: O greu bydoedd bychain i ddylunio setiau opera

22 Ebrill 2022

Yn dilyn cyfnod hynod lwyddiannus yn ystod Tymor Hydref 2021 Opera Cenedlaethol Cymru, mae opera dorcalonus Puccini, Madam Butterfly, yn dychwelyd am nifer cyfyngedig o berfformiadau’r Gwanwyn hwn. Cawsom sgwrs â’r dylunydd Isabella Bywater i ganfod o ble daeth ei brwdfrydedd am ddylunio a sut aeth ati i ymdrin â chlasur Puccini.

‘Y gwaith o ddyfeisio amgylchedd, y cwestiynau a’r datrysiadau ymarferol, y cydweithrediadau, y gwaith o greu modelau. Rwy'n eu mwynhau i gyd.

Fel plentyn roeddwn wastad yn dyfeisio bydoedd bychain. Ystyriais y byddai pensaernïaeth yn yrfa gyffrous, yn creu ardaloedd ymarferol i bobl fyw neu weithio ynddynt. Fodd bynnag, pan oeddwn yn 17 mlwydd oed ac yn y coleg yng Nghaergrawnt deuthum yn weithredol iawn yn y theatr a sylweddolais am y tro cyntaf ar fodolaeth dylunio theatr. Newidiais gyfeiriad gan ddechrau archwilio gwaith artistiaid ac ymchwilio i ddylunio theatr hanesyddol. Roeddwn â diddordeb arbennig mewn gwaith avant-garde. Ar ôl gadael y coleg yn 18 oed cefais swydd lanhau yn Theatr y Duke of York yn y West End yn Llundain a pharheais ar lwybr o brentisiaethau o hynny ‘mlaen, yn cynnwys creu propiau, gwisgo, paentio golygfeydd ac yn olaf cynorthwyo dylunwyr.

Byddaf yn ymdrin â phob sioe yn yr un modd – trafod syniadau â’r cyfarwyddwr, meddwl yn benagored a gwneud ymchwil weledol a llenyddol. Mae fy mhroses greadigol wastad yn cynnwys gwrando ar y gerddoriaeth, darllen y libretto a meddwl am y stori ac am y datrysiadau neu’r syniadau wrth wneud pethau eraill. Weithiau’n deffro yng nghanol y nos hyd yn oed. 

Ar gyfer Madam Butterfly, darllenais Madame Chrysanthème gan Pierre Loti, memoire y seiliwyd y ddrama Butterfly wreiddiol arni. Bu’n ddiddorol a defnyddiol iawn i mi.  Edrychais hefyd ar lawer o luniau o ferched ag ymddangosiad fel doliau neu egsotig, gwyryfol arnynt, gwisgoedd hynod ffasiynol ac wrth gwrs, ffrogiau priodas. Edrychais ar luniau o law a chyddwysiad, a phobl mewn amgaeadau gwydr. Cefais y syniad o Butterfly wedi’i chau mewn ‘cawell’ bocs gwydr fel anifail mewn sŵ neu fodel mewn arddangosfa ffenestr yn gynnar iawn. Fydda i ddim yn defnyddio technoleg wrth ddylunio. Byddaf yn gwneud brasluniau syml a chasglu cyfeiriadau eang.

Gyda’r cynhyrchiad hwn o Madam Butterflyaeth Lindy Hume a minnau ati i ddatblygu’r cysyniad gyda’n gilydd ac roedden ni eisiau creu rhywbeth cyfoes, dideimlad, a gwleidyddol ymwybodol. Roedden ni eisiau gwneud y ‘cytundeb’ o briodi a phriodas yn cael ei gwerthu fel nwydd yn flaenoriaeth. Y fenyw/plentyn yw’r nwydd. Oherwydd y pandemig, gweithion ni’n bennaf dros y ffôn neu zoom, gan ddod at ein gilydd wrth i’r cyfyngiadau newid.

Rwyf o’r farn y dylai popeth ddod at ei gilydd a gweithio fel cyfanwaith, gyda phob elfen yn gynhwysyn sylfaenol mewn rysáit.

Fy nghyngor i unrhyw egin ddylunwyr fyddai, nad yw cynllunio theatr at ddant pawb. Mae’n waith caled, galwedigaethol.  Mae’n rhaid i chi fod yn frwd drosto. I'r rheiny ohonom sydd wrth ein boddau yn ei wneud, mae’n ffordd o fyw.