Gan anelu at gael mwy o realaeth a gwell cysylltiad gyda bywyd bob dydd, mae operâu Leoš Janáček yn tynnu’r sylw ac yn wahanol. Fel rhan o’n Cyfres Janáček, y Tymor hwn cyflwynwn gynhyrchiad clodwiw Katie Mitchell o Jenůfa. Cawsom air gyda Tomáš Hanus, Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, i ddysgu rhagor am y darn hynod ddramatig hwn.
‘Rydw i wedi gwirioni ar Janáček ers fy mhlentyndod. Mae’n gyfansoddwr gwreiddiol iawn. I mi, mae’n sefyll ar ei ben ei hun yn hanes cerddoriaeth, oherwydd alla’ i ddim ei gymharu ag unrhyw ragflaenydd. Wrth gwrs, daeth dan ddylanwad cyfansoddwyr eraill, ond mae ei iaith gerddorol yn wahanol ac yn unigryw. Rywfaint dros ddegawd cyn i Jenůfa gael ei pherfformio, ysgrifennodd Tchaikovsky The Queen of Spades.
Yn wahanol i operâu traddodiadol, nid yn unig y mae’r sgôr yn cyd-fynd â’r ddrama a gaiff ei pherfformio ar y llwyfan, mae’n ategu’r ddrama honno. Fel gyda Tchaikovsky, mae’r gerddorfa’n rhan gwbl ganolog o iaith gerddorol Janáček ac mae’n chwarae rhan yr adroddwr, gan ddweud y stori.
Ond y dylanwad pwysicaf ar ei gyfansoddi oedd cerddoriaeth rhanbarth Morafia a melodi geiriau. Mae ei sgôr yn llawn o linellau llafar eu naws sy’n cysylltu â’r gynulleidfa. Er enghraifft, mae ‘Děkuji Ti, Laco’ (Diolch iti, Laca) Jenůfa, ar ddiwedd yr ail act, yn swnio’r un fath yn union â phe bai’n cael ei lefaru. Roedd Janáček yn meddu ar ryw allu arbennig i droi geiriau’n felodïau ac yn fotiffau cerddorol. Caiff yr holl opera ei hadeiladu ar lu o fotiffau bach, diemyntau bychain sy’n cynnal yr holl ddarn.
Mae dylanwad cerddoriaeth werin hefyd yn gwbl amlwg. Mewn un olygfa gwelwn filwyr yn dychwelyd adref i gyfeiliant cân werin, fe dybiwn (a chân werin wyllt iawn hefyd!) – ond cyfansoddiad gwreiddiol gan Janáček ydyw.
Un o’m hoff rannau cerddorol yn yr opera yw’r weddi Salve Regina a gaiff ei chanu gan Jenůfa yn yr ail act ar ôl iddi ddeffro mewn tŷ gwag heb unrhyw olwg o’i baban na’i llysfam. A hithau’n methu dod o hyd iddynt, mae hi’n poeni am ddiogelwch ei baban ac mae hi’n gweddïo ar y Forwyn Fair i ofalu amdano. Yn gerddorol, mae mor syml, ond mae’n eithriadol o hardd.
Fe wnes i arwain Jenůfa am y tro cyntaf yn Bayerische Staatsoper Munich yn 2009, ac nid wyf erioed wedi teimlo cymaint o gyfrifoldeb. Mae’r opera yn eithriadol o emosiynol a thrasig, ond eto’n hardd – profiad a drawsnewidiodd fy mywyd. Cefais fy ngeni ar yr un stryd â Leoš Janáček, rydw i wedi gwirioni ar ei waith a phleser o’r mwyaf yw cael arwain Jenůfa yn Opera Cenedlaethol Cymru y Tymor hwn a hefyd The Makropulos Affair yn ystod yr Hydref.