Mae pobl y DU wrth eu bodd gydag opera sebon dda. Mae’r troeon yn y plot, diweddgloeon sy’n eich gadael wrth ymyl y dibyn a sgandalau mawr operâu sebon fel Coronation Street, Eastenders ac Emmerdale yn sicrhau bod y sioeau hyn, ymhlith y rhaglenni sy’n cael eu gwylio fwyaf ym Mhrydain, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn sawl ffordd, mae opera’n rhannu’r rhinweddau cyfareddol hyn, gyda rhai o’r operâu mwyaf poblogaidd yn archwilio themâu cariad, perthnasoedd a marwolaeth. Yn wir, cymharodd Katie Mitchell, cyfarwyddwr gwreiddiol cynhyrchiad y Tymor hwn o Jenůfa, opera Janáček ag opera sebon. Ond, pam yn union mae Mitchell yn gwneud y gymhariaeth hon?
Yn yr un modd ag y mae pob pennod o opera sebon yn gorffen ar ymyl y dibyn, gan eich gorfodi i aros drwy'r hysbysebion neu tan y diwrnod nesaf i weld beth sy’n digwydd nesaf, mae Jenůfa yn eich gadael yn dal eich anadl yn ystod ei ddwy egwyl. Gan droi trwy drasiedi erchyll a thensiwn anhygoel, mae’r plot yn cymryd troadau annisgwyl sydd bron yn amhosibl eu rhagweld. Mae yna reswm pam bod yr opera hon wedi swyno cynulleidfaoedd ers ei pherfformiad cyntaf yn 1904, ac rydym yn gwarantu y bydd y digwyddiadau ar y llwyfan yn hoelio’ch sylw wrth i’r stori afaelgar fynd rhagddi. Yn fwy na hynny, nid drama ddwys debyg i opera sebon Jenůfa yn unig fydd yn eich cyfareddu, yn cyfoethogi’r ddrama mae sgôr gerddorfaol syfrdanol Janáček, y mae Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, yn ei disgrifio fel ‘adroddwr’ yr opera, sy’n ategu’r ddrama i’r gynulleidfa.
Yn union fel mewn opera sebon, mae plot Jenůfa yn cael ei yrru gan berthnasau cymeriadau amrywiol, sy’n llywio eu cariad a'u gwrthdaro. Mewn operâu sebon, nid oes dim byd gwell na phlot triongl cariad da, ac yn Jenůfa, mae'r opera'n agor gyda gwrthdaro rhwng Jenůfa, y meddw Števa, a'i hanner brawd llai golygus Laca. I gymhlethu’r sefyllfa ymhellach, mae Jenůfa yn feichiog gyda phlentyn anghyfreithlon Števa, sy’n dwysáu’r ddrama trwy’r risg aruthrol o ddod â chywilydd arni hi ei hun a’i theulu. Mae’r dwyster yn dyfnhau ymhellach drwy’r berthynas sy’n esblygu’n barhaus rhwng Jenůfa a’i llysfam, Kostelnička, sydd ill dau’n brwydro i guddio’u sgandal a chelwydd rhag y pentrefwyr.
Yn olaf, ac efallai yn bwysicaf oll i’r opera hon, mae Jenůfa yn frith o wrthdaro moesol, yn union fel cymaint o’n hoff operâu sebon. A fydd Števa yn gallu aros yn ddigon sobr i briodi Jenůfa? A fydd Kostelnička yn lladd plentyn Jenůfa i’w hachub rhag cywilydd? A fydd Števa yn cadw’r newyddion am ei blentyn anghyfreithlon rhag ei ddyweddi newydd? Dyma rai yn unig o’r penblethau moesol y mae’r cymeriadau’n eu hwynebu drwy gydol yr opera – a choeliwch ni pan ddywedwn, mae yna lawer mwy. Beth am ddod i weld perfformiad o Jenůfa y Tymor hwn i chi gael gweld y tebygrwydd rhwng Jenůfa gan Janáček ac operâu sebon?