Newyddion

Brenhinoedd a Breninesau Opera

2 Mehefin 2022

Mae gan opera berthynas ffrwythlon â'r teulu brenhinol. Yn ystod wythnos Jiwbilî'r Frenhines, rydym yn edrych ar sut mae'r teulu brenhinol wedi dylanwadu ar y gelfyddyd: boed hynny drwy gomisiynu darnau newydd, sefydlu cwmnïoedd neu theatrau, i gymeriadau o fewn operâu.

Lle naturiol i ddechrau arni, fyddai'r amrywiaeth o gwmnïau opera brenhinol sy'n bodoli mewn gwahanol wledydd ledled y byd, o The Royal Opera, a ffurfiwyd yn 1946 ac a leolir yn y Royal Opera House yn Covent Garden, Llundain, a gafodd ei adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan dderbyniwyd y syniad o gymhorthdal celf gyhoeddus. I'r Royal Swedish Opera yn Stockholm a ffurfiwyd yn ôl yn 1773. 

Wedyn, mae gennych chi Frenhinoedd a Breninesau sy'n ymddangos mewn operâu. Mae Un ballo in Maschera gan Verdi yn seiliedig ar y digwyddiadau yn y Swedish Opera pan gafodd ei sylfaenydd, Brenin Gustav III, ei saethu yn y tŷ opera yn 1792.

Enghraifft arall sy'n dod i'r meddwl, gyda digonedd o Freninesau, yw triawd o operâu Donizetti, a gafodd eu cyflwyno gyda'i gilydd fel Y Tuduriaid ar gyfer Tymor Gwanwyn WNO yn 2013: Anna Bolena, Maria Stuarda a Roberto Devereux, pob un yn portreadu safbwynt Eidalaidd o Frenhiniaeth Lloegr. Gydag Elizabeth I yn gwisgo gwisg arddull Vivienne Westwood, dychwelodd Roberto Devereux i'n llwyfan yng Ngwanwyn 2019. Mae Don Carlos gan Verdi hefyd wedi'i osod mewn cyfnod tebyg, gyda'i fersiwn o'r digwyddiadau hanesyddol o amgylch Don Carlos a'i dad, Brenin Phillippe II Sbaen.

Ac wedyn mae gennych chi lu o gymeriadau brenhinol ffuglennol, o Dywysog Swynol La Cenerentola (Cinderella gan Rossini), i Frenhines y Calonnau Alice in Wonderland, Macbeth neu Titania Shakespeare, i Wotan, Brenin y Duwiau Wagner, neu bwy all anghofio Brenhines y Nos yn The Magic Flute gan Mozart, gyda'i haria heriol ond cofiadwy.

Yn olaf, ond nid y lleiaf o bell ffordd, mae presenoldeb aelodau'r teulu brenhinol mewn perfformiadau opera – yn achos WNO, ein Noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yr oedd ei ymweliad diweddaraf, yn eithaf addas, i'n noson agoriadol o Un ballo in Maschera yn 2019. Yn fwy diweddar, mae Opera Ieuenctid WNO wedi perfformio ar gyfer ein Noddwr, yn ogystal â'i Mawrhydi, y Frenhines, yn ystod digwyddiad ail-agor Senedd Cymru. Ein Noddwr Brenhinol cyntaf oedd Diana, Tywysoges Cymru, a fynychodd berfformiad gan WNO yn Efrog Newydd yn 1989, a achosodd cymaint o fwrlwm a chyffro, roedd yn rhaid cynnal gwaith atgyweirio'r ffordd ar unwaith. Cafodd yr ymweliad ei gynnwys mewn pennod o The Crown.

Mae'r teulu brenhinol ac opera yn mynd law yn llaw, a gall atyniad y teulu brenhinol, heb os, gael dylanwad sylweddol ar opera fel celfyddyd.