Newyddion

La traviata mewn diwylliant poblogaidd

20 Gorffennaf 2023

La traviatao waith Verdi yw un o’r operâu mwyaf poblogaidd a fu erioed. Ers ei berfformiad cyntaf yn 1853, mae wedi dal calonnau'r cyhoedd. Archwiliwch sut mae ei halawon hardd a’i stori rymus wedi ymddangos mewn rhai mannau annisgwyl dros y blynyddoedd. 

Mewn ffilmiau 

Mae’n debyg mai’r cyfeiriad enwocaf at La traviata yw’r clasur 1990 Pretty Woman gyda Richard Gere a Julia Roberts. Mae’r ffilm yn benthyg llawer o blot yr opera - yn y ddwy fersiwn, mae putain yn ceisio gadael ei hen fywyd ar ôl a dechrau eto ar ôl syrthio mewn cariad. Mae Violetta, a Vivian o Pretty Woman fel ei gilydd, yn ceisio ffitio i’w bywydau newydd, gan herio stigma eu swydd wrth iddynt gael eu barnu gan y rhai o’u cwmpas. Mae’r ffilm hyd yn oed yn talu teyrnged i gampwaith Verdi gyda’r prif gymeriadau yn mynychu perfformiad o La traviata.  

Ei i'r cyfarwyddwr Baz Luhrmann ddatgan bod ei ffilm jiwcbocs Moulin Rouge wedi’i hysbrydoli gan chwedl Orpheus and Eurydice, mae’r cymariaethau â La traviata yn amlwg. Mae Satine (Nicole Kidman) yn butain sy’n byw ym Mharis, ac fel Violetta, mae hi’n dioddef o’r diciâu.Mae'n syrthio mewn cariad â’r awdur Christian (Ewan McGregor) sy’n addo dangos bywyd newydd iddi, ond mae eu cariad dan fygythiad Dug cyfoethog, sy’n sefyll rhwng y ddau. Ar ôl datgan eu cariad at ei gilydd, mae Satine yn marw ym mreichiau Christian, unwaith eto yn adlewyrchu La traviata, sydd yn gorffen gyda Violetta yn marw ym mreichiau Alfredo. 

Yng ngolygfa fwyaf cofiadwy The Adventures of Priscilla, Queen of the Desert mae’r perfformiwr drag Felicia (Guy Pearce) yn rholio ar draws yr anialwch ar ben eu bws, gyda defnydd arian sgleiniog yn codi’n donnau y tu ôl iddi. Mae Felicia yn perfformio ‘lip-sync’ gwych i aria Violetta, Sempre libera lle mae’n datgan y bydd hi bob amser yn rhydd.Mae’r foment eiconig hon wedi cael ei hail-greu ar gyfer y fersiwn sioe gerdd lwyfan o Priscilla, sydd wedi teithio'r byd. 


Mae ffilm ddirgelwch 2019 Rian Johnson Knives Out yn creu'r awyrgylch o ddirgelwch gyda sgôr sy’n cynnwys E strano! – Ah, fors’è lui o La traviata mewn golygfa sydd yn llawn hiraeth a natur anochel marwolaeth. Mae Marta, arwres Knives Out, hefyd yn adlewyrchu Violetta; mae hi hefyd yn fenyw ar gyrion cymdeithas sy’n cael ei chamdrin gan y dosbarth uwch. 

Mewn hysbysebion

Defnyddiodd Heineken Brindisi, y gân yfed enwog o La traviatai greu golygfa llawn drama a thensiwn, yn dilyn y daith o geisio symud drwy dafarn orlawn wrth gario sawl peint o gwrw. 

Fel Felicia yn Priscilla, roedd Nissan hefyd eisiau dynodi rhyddid ac annibyniaeth yn eu hysbysebion ar gyfer y Qashqai a gwnaethant ddefnyddio aria Violetta, Sempre libera; cyfeiliant byrlymus addas ar gyfer ei anturiaethau trefol.  

Mewn ffasiwn

Ar gyfer Gwobrau Grammy 2014, gwisgodd y seren bop Katy Perry wisg bwrpasol a ddyluniwyd gan yr eicon byd ffasiwn Valentino, ynghyd â cherddoriaeth o gychwyn yr act gyntaf, Dell'invito trascorsa e gia l'ora. Cymerodd y wisg tua 1,600 awr i’w brodio a’i henw oedd La Valse de Violetta Valéry.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dyluniodd Valentino wisgoedd ar gyfer cynhyrchiad newydd o’r opera yn Teatro dell’Opera di Roma, a gyfarwyddwyd gan enillydd y wobr Academi Sofia Coppola. Gan wneud sioe ysblennydd o ymddangos yng ngolygfa barti Act I, serennodd Violetta mewn ffrog ddu gyda godre gwyrddlas tiwl 10 troedfedd. Serch hynny, y wisg fwyaf trawiadol oedd y ffrog ddawns goch Valentino yn Act II. 

Profwch y cynhyrchiad ysblennydd hwn eich hun mewn cynhyrchiad gwych ac ysbrydoledig wrth i ni fynd â champwaith Verdi ar daith yr Hydref hwn, gan agor yng Nghaerdydd, cyn ymweld â Llandudno, Bristol, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton rhwng 21 Medi a 25 Tachwedd.