Newyddion

Lesley Garrett yn dychwelyd i WNO

7 Rhagfyr 2017

Mae Haf 2018 yn gweld Lesley Garrett yn dychwelyd i WNO ar gyfer cynhyrchiad newydd sbon, Rhondda Rips It Up! Bydd Lesley’n perfformio rôl yr Emcee yn y comisiwn newydd hwn, cyfuniad o adloniant mewn arddull neuadd gerddoriaeth a chabare. Mae’r cynhyrchiad hwn yn teithio i leoliadau o gwmpas Cymru a Lloegr, gan roi’r cyfle i ni ymweld â llefydd nad ydym yn ymweld â nhw’n aml, o Gaerfyrddin i Malvern i Dreorci, i enwi tri lleoliad yn unig.

O bosib bydd cynulleidfaoedd WNO yn cofio Lesley orau am ei hymddangosiadau fel y Merry Widow yn 2005 ond yn fwyaf diweddar ymddangosodd yn Chorus! yn ein rhaglen Tymor y Gwanwyn yn 2015. Pwy all anghofio ei gweld yn hedfan ar chaise longue ar ffurf par o wefusau coch llachar...? Ond mae ei chysylltiad â ni’n mynd yn ôl i 1981 pan ymddangosodd ym mhremière The Journey gan John Metcalf (fel Nicola) a The Bartered Bride yn 1982 (fel Esmeralda).

Yn 2017, mae gwylwyr teledu wedi gweld Lesley yn ymddangos ar Celebrity Masterchef. Ac ym mis Tachwedd 2017 fe perfformiodd yn Tapestry Galleries y V&A fel rhan o #OperaPassion, yn gysylltiedig â’r arddangosfa ‘Opera: Passion, Power and Politics’  buodd WNO yn rhan ohono, ochr yn ochr â chwmnïau operâu ledled y wlad. Mae hyn oll yn dyst i’w hapêl barhaus.

 Rydym yn falch fod Lesley yr un mor gyffrous i ymgymryd â’r rhan, sy’n cydnabod y trallod a ddioddefodd merched er mwyn ennill yr hawl i bleidleisio, ag yr ydym ni o’i chroesawu’n ôl. Felly, beth am gael gafael yn eich ffrindiau ac ymuno â’r orymdaith i ddathlu Lady Rhondda, yr arwres Gymreig sydd heb gael fawr o sylw, wedi ei arwain gan un o hoff brif ferched Opera Cenedlaethol Cymru, yn y dathliad doniol dros ben hwn o ‘rym merched’.

Am ragor o wybodaeth