Yn seiliedig ar y testun gan Voltaire (1759), mae’r opera Candide(1956) gan Leonard Bernstein yn sioe gerddorol ddychanol, ffraeth a chraff sy’n ymdrin ag optimistiaeth ffôl, anghydraddoldeb a chamdrin pŵer. Mae cynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o’r opera yn dod â’r cwestiwn canolog yn fyw ynghylch sut allwn ni fel unigolion gyflawni hapusrwydd a byw’r bywyd gorau posib. Mae sawl gwers i’w dysgu o sut caiff safbwyntiau syml eu cyfleu mewn ffordd ddoniol yn y gwaith, felly gadewch i ni edrych ar y rhai pwysicaf.
Byddwch yn bwyllog yn eich optimistiaeth.
Mae optimistiaeth a’r chwilio am hapusrwydd yn thema ganolog yn yr opera. Addysgir Candide gan ei athro Dr Pangloss eu bod yn byw yn ‘y byd gorau posib o’r holl fydoedd’ ac nad oes ganddynt unrhyw reswm i deimlo’n ddigalon neu’n ofidus. Hyd yn oed pan fo pethau drwg yn digwydd, maent yn ddrwg angenrheidiol sy’n rhan o gynllun ehangach i gadw harmoni’r bydysawd mewn cydbwysedd: ym marn Dr Pangloss, mae rhyfel yn ‘fendith’ cudd yn hytrach na gwrthdrawiad o galedi aruthrol y gellir ei osgoi.
Fodd bynnag, mae gor-obaith Dr Pangloss yn ei atal rhag gweld dioddefaint eraill. Er ei bod yn bwysig i gynnal rhagolwg cadarnhaol ar fywyd, mae’n rhaid i ni beidio â gwneud hynny ar draul neu wrthodiad eraill o realiti.
Nid yw byd perffaith bob amser yn arwain at hapusrwydd.
Yn Act II, mae Candide a Paquette yn dod ar draws tir El Dorado, paradwys sydd heb ei gyffwrdd gan weddill y byd, lle mae palmentydd y strydoedd wedi’u creu o aur a lle nad yw llysoedd a charchardai’n bodoli. Mae pobl El Dorado yn byw mewn paradwys, lle nad oes unrhyw beth yn brin gan fod eu gwlad wedi rhoi popeth fydd ei angen neu ei eisiau arnynt. Mae Candide a Paquette ar ben eu digon, ond yn fuan maent yn diflasu ar rwyddineb bywyd. Mae Candide yn dymuno bod gyda’i annwyl Cunégonde, gan holi lle allai hi fod, ac maent yn gadael y tir i chwilio amdani.
Er bod arian a chyfoeth yn gallu gwneud eich bywyd yn haws ac yn fwy pleserus dros dro, ni fydd bob amser yn bodloni eich dyheadau dwysaf, yn rhoi rhagor o amser i chi nac yn dad-wneud y gorffennol.
Cofiwch feithrin eich gardd – gofalwch amdanoch eich hun a’ch cymuned.
Cyn cân olaf Candide, ‘Make Our Garden Grow’, mae Candide, Cunégonde a’u ffrindiau yn canfod eu hunain yn Constantinople, yn flinedig ac anobeithiol ar ôl goddef cymaint o drychineb, trasiedi bersonol a cholled. Mae Gŵr Doeth yn eu cyflwyno nhw i waith ar y fferm sy’n syml ond yn gynhaliol ac sydd, o’r diwedd, yn rhoi ymdeimlad o foddhad a llesiant i Candide.
Mae Candide’n dod i’r canlyniad mai ni’n unig sy’n gyfrifol am ein hapusrwydd ein hunain i fyw’r bywyd gorau posib. I orffen, mae Candide yn ateb prif gwestiwn yr opera – sef, drwy ganolbwyntio ar ofalu amdanom a’n cymuned ein hunain, a thrwy feithrin ein gardd ein hunain, gall bob un ohonom fyw bywyd gwell a mwy ystyrlon.
Cofiwch ddod i weld cynhyrchiad newydd gwefreiddiol WNO o Candide yng Nghaerdydd ym mis Mehefin cyn y bydd yn mynd ar daith i Truro, Llandudno, Rhydychen, Birmingham ac Aberhonddu tan 15 Gorffennaf 2023.