Newyddion

Lorca: Cyfrinach i lwyddiant

28 Gorffennaf 2023
Lorca a Margarita yn Ainadamar. Llun drwy garedigrwydd James Glossop/Scottish Opera.

Fe’ch gwahoddir i ddod i weld Ainadamar yn Nhymor yr Hydref. Dyma sioe sy’n adrodd hanes Federico García Lorca, y bardd a’r dramodydd a ddienyddwyd gan genedlaetholwyr Sbaenaidd yn 1936. Mae’r opera hon o waith Osvaldo Golijov, sy’n torri tir newydd, yn cyfuno fflamenco gyda chanu traddodiadol Sbaenaidd a chaneuon operatig godidog ac mae’n cael ei hadrodd o safbwynt Margarita Xirgu, y brif actores, cyfeilles a chydweithwraig artistig i Lorca.

Roedd y 1920au a’r 1930au yn gyfnod dirdynnol, o safbwynt gwleidyddol, i fyw a gweithio yn Sbaen. Gallai bod yn wleidyddol radical ar yr adeg hon, fel yn achos Margarita a Lorca, fod yn beryglus iawn wrth i’r wlad gael ei siglo o lywodraeth unben i ddemocratiaeth a dechrau’r Rhyfel Cartref Sbaenaidd yn 1936. Cyfrinach agored oedd y ffaith bod y ddau hefyd yn hoyw, nodwedd a wnaethpwyd yn anghyfreithlon yn 1928 o dan lywodraeth unben Miguel Primo de Rivera, a chyda dyfodiad cyfundrefn Franco yn 1936 erlidiwyd pobl hoyw yn ddidrugaredd.

Gwelodd Lorca Margarita yn perfformio am y tro cyntaf yn 1915, pan oedd yn chwarae’r prif ran yn Elektra, ac fe’i cyfareddwyd gan ei gallu artistig. Roedd perfformiad yr actores wedi gadael y fath argraff arno fel y bu iddo ysgrifennu’r ddrama Mariana Pineda gyda’r bwriad o roi’r brif ran iddi hi’n benodol. Trefnodd i’w chyfarfod ym Madrid yn 1926 a chytunodd hithau i ymgymryd â’r prosiect fel prif actores a chynhyrchydd, ac agorodd Mariana Pineda ym mis Mehefin 1927 yn Barcelona, gyda Salvador Dalí, y swrrealydd Sbaenaidd enwog, yn gyfrifol am y set a’r gwisgoedd. Y cynhyrchiad hwn oedd y llwyddiant theatrig cyntaf a ddaeth i ran Lorca, a bu’n gychwyn ar gyfeillgarwch agos rhyngddo ef a Margarita. O hynny ymlaen, bu'r ddau'n cydweithio i lunio dramâu newydd a ddaeth yn ganolog yn y canon Sbaenaidd.

Aeth Margarita ymlaen i greu sawl rôl ar gyfer dramâu Lorca, gan gynnwys y Crydd yn The Shoemaker's Prodigious Wife yn 1930 a rôl eponymaidd Yerma yn 1934. Y gwaith olaf iddi ei gyflwyno am y tro cyntaf yn ystod oes Lorca oedd Doña Rosita the Spinster yn Barcelona yn 1935. Serennodd hefyd fel y prif gymeriad mewn cynhyrchiad newydd o Blood Wedding o waith Lorca yn 1935 a’r addasiad ar gyfer ffilm yn 1938.

Yn anffodus, daeth cyfeillgarwch Margarita a Lorca i ben yn ddisymwth pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan yn Sbaen a phan lofruddiwyd Lorca. Daeth Margarita yn ymwybodol o’r newydd am ei lofruddiaeth cyn perfformiad o Yerma yn ystod un o’i theithiau theatrig ym Mecsico. Fe’i hysgytwyd i’r fath raddau gan y newydd fel y bu iddi newid cri olaf Yerma o ‘Fi fy hunan a laddodd fy mab’ i ‘Maent wedi llofruddio fy mab’ yn ystod y perfformiad.

Ni wnaeth trychineb llofruddiaeth Lorca  atal Margarita rhag gweithio i hyrwyddo ei waddol wedi ei farwolaeth. Bu Margarita yn byw mewn alltud oherwydd y perygl o ddychwelyd gartref i Sbaen, a threuliodd weddill ei bywyd yn perfformio dramâu Lorca gyda’i chwmni yn Ne America. Gwaith a gwblhawyd fis yn unig cyn marwolaeth Lorca ac felly heb ei berfformio yn ystod ei oes, oedd The House of Bernada Alba ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf gan Margarita a’i chwmni yn Buenos Aires, yr Ariannin yn 1945. Er bod barddoniaeth a gweithiau theatrig Lorca wedi eu gwahardd yn Sbaen o dan ddylanwad Franco hyd at 1953 ac wedi’u sensora am flynyddoedd wedi hynny, bu cyfraniad Margarita yn allweddol wrth ddiogelu ei waddol artistig ar gyfer cenedlaethau o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd.

Daw stori cyfeillgarwch, bywyd a marwolaeth Margarita a Lorca yn fyw yn Ainadamar, y sioe y dyfarnwyd iddi ddwy wobr grammy, a berfformir yng Nghaerdedd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton hyd at 22 Tachwedd.