Mae opera’n enwog am gymryd ysbrydoliaeth o ffynonellau eraill; fodd bynnag, ni fyddech yn disgwyl i stori am dywysoges o’r bedwaredd ganrif fod mor debyg i opera sy’n eithaf cyfoes. Heddiw, ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, byddwn yn cymharu chwedl am Nawddsant Cariadon Cymru â'r arwres yn opera Janáček o 1904,Jenůfa.
Os rhoddwyd cyfle i chi anghofio am eich tor calon, a fyddech chi’n manteisio arno? Dyna wnaeth Dwynwen. Roedd hi wedi syrthio mewn cariad gyda bachgen lleol o’r enw Maelon Dafodrill, ond, yn ddiarwybod iddi ar y pryd, roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi Tywysog, ac felly'n gwahardd perthynas rhwng y ddau. Gan nad oedd hi’n cael priodi ei gwir gariad, diflannodd i’r goedwig ac fe ddaeth angel i ymweld â hi. Rhoddodd ddiod hud iddi oedd yn gwneud iddi anghofio popeth am Maelon a’i thor calon.
Gellir dehongli stori Dwynwen a Jenůfa mewn ffordd debyg. Mae’r ddwy gymeriad yn profi tor calon ac yn dyheu am briodasau na chawsant ddigwydd oherwydd bod sefyllfaoedd yn gwrthdaro.
Fe gwympodd Jenůfa mewn cariad gyda bachgen lleol hefyd – Steva – ac fel Dwynwen, nid oedd yn cael ei briodi am ei fod yn priodi merch arall - Karolka, merch y maer. Ond megis dechrau'r stori am dor calon Jenůfa yw hynny. Heb iddi wybod, ar ôl geni plentyn yn gyfrinachol, rhoddodd Kostelnička dracht cysgu iddi, ac mae hi’n barod i fynd i’r eithaf i osgoi gwynebu cywilydd cyhoeddus mewn cymuned hen ffasiwn.
Erbyn y diwedd, mae’r ddwy arwres yn byw mewn heddwch. Mae Dwynwen, sy’n golygu ‘merch sy’n byw bywyd bendigedig’, yn ymroi ei hun i Dduw ac yn dod yn lleian, gan agor lleiandy ar Ynys Llanddwyn, Ynys Môn. Ar 25 Ionawr yng Nghymru bob blwyddyn rydym yn dathlu cariad ac yn cofio ei haberth dros gwir gariadon, sy’n rhan enfawr o hanes Cymru. Dyna’r diwrnod mwyaf rhamantaidd yng nghalendr Cymru.
Beth oedd hanes Jenůfa? Mae’n dod yn ymwybodol o’i chryfder ei hun a phŵer achubol cariad a maddeuant. Mae themâu pwerus y darn wedi cydio mewn cynulleidfaoedd ers blynyddoedd, ac nid yw’n syndod bod y cyfarwyddwr, Katie Mitchell, yn ei ddisgrifio fel y brif opera sebon.
Mae straeon am gariad yn dod mewn amrywiaeth o operâu - o La bohème a La traviata iTristan und Isolde a Rigoletto – ac mae pob un wedi serennu ar lwyfan WNO dros y blynyddoedd. Mae cariad yn thema amlwg yn ein Tymor Gwanwyn nesaf. Dewch i brofi tor calon drwy lygaid Madam Butterfly, Don Giovanni ac wrth gwrs, Jenůfa.