Mae rhamant yn thema dragwyddol a welir yn aml mewn opera, ac mae trionglau cariad yn ffefryn penodol. Y Gwanwyn hwn, rydym yn dychwelyd gyda’n perfformiad poblogaidd o The Marriage of Figaroi lwyfannau ledled Cymru a Lloegr, stori am gariad, ffyddlondeb a chamadnabyddiaeth, gyda thriongl cariad wrth ei gwraidd. Mae opera Mozart yn cyflwyno stori Cownt Almaviva wrth iddo obeithio swyno ei forwyn, Susanna. Fodd bynnag, mae Fiagro, ei darpar ŵr yn benderfynol o’i drechu. Wrth i ni edrych ymlaen at hynt a helyntion The Marriage of Figaro, rydym wedi cymryd cipolwg ar drionglau cariad eraill mewn opera, nid yw’r rhain i gyd mor ysgafngalon ag opera Mozart.

Bizet Carmen
Mae Carmen yn stori drist, gyda chymeriad fenywaidd gref sy’n rhan o driongl cariad ffiaidd. Mae’r prif gymeriad yn rhoi sylw i ddau ddyn; Don José, y milwr sydd wedi gwirioni â hi, ac Escamillo, yr ymladdwr teirw anturlon sy’n cipio ei sylw. Mae teimladau newidiol Carmen yn gwneud Don José yn wallgof, ac o ganlyniad mae’n llofruddio Carmen oherwydd ei chariad tuag at Escamillo.
Puccini Tosca
Nid oes unrhyw beth yn ysgafngalon am driongl cariad Tosca. Yn opera ddramatig Puccini, mae’r gantores Tosca yn cael ei dal rhwng ei chariad, Cavaradossi, a Scarpia, prif gwnstabl heddlu creulon. Mae Scarpia eisiau Tosca ac yn defnyddio ei bŵer i’w pherswadio i ildio i’w ymdrechion, yn bygwth bywyd Cavaradossi os yw hi’n gwrthod, ac mae cariad Tosca tuag at Cavaradossi yn ei gorfodi i fynd i’r eithaf ac mae hynny’n creu diweddglo trasig. Mae’r opera yn dangos ochr dywyll, rymus cariad, lle mae obsesiwn, perswâd a brad yn gwrthdaro.
Bellini Norma
Mae Norma gan Bellini yn opera lle mae cariad a brad yn cydblethu mewn triongl cariad torcalonnus. Mae Norma, archoffeiriades Derwyddon, mewn cariad cudd â Pollione, rhaglaw Rhufeinig. Fodd bynnag, mae Pollione hefyd mewn cariad ag Adalgisa, offeiriades ieuengach. Pan mae Norma yn canfod brad Pollione, mae hi’n pendroni rhwng ei chariad ato a’i dyletswydd i’w phobl. Mae’r tensiwn dramatig yn datblygu wrth i Norma wynebu’r dewis anodd rhwng aberthu ei chariad neu ei hanrhydedd. Mae’r opera drist yn ymdrin â’r themâu o ddyletswydd, aberth, ac effeithiau dinistriol cariad a chenfigen.
Dvořák Rusalka
Mae Rusalka gan Dvořák’s yn stori drist ynghylch cariad annychweledig a thrawsnewid. Mae Rusalka, y nymff ddŵr, yn syrthio mewn cariad â thywysog dynol ac yn dymuno bod yn ddynol hefyd er mwyn cael bod gydag ef. Fodd bynnag, nid yw ei chariad yn cael ei ddychwelyd yn y ffordd y mae hi’n ei obeithio, gan fod y tywysog yn priodi dynes arall, y dywysoges dramor. Mae hiraeth a thor-calon Rusalka yn tyfu yn ystod yr opera, gan arwain at ganlyniadau trist. Cyfoethogir portread yr opera am gariad, brad ac aberth gan ei cherddoriaeth swynol, llawn awyrgylch, sy’n gwneud cariad gwag Rusalka yn hyd yn oed yn fwy teimladwy.
Puccini Madam Butterfly
Madam Butterfly yw un o’r trionglau cariad mwyaf trist ym myd opera. Mae’r geisha Japaneaidd ifanc ‘Butterfly’ yn priodi Lieutenant Pinkerton, morwr Americanaidd. Fodd bynnag, pan mae Pinkerton yn ei gadael ac yn priodi dynes arall, mae Butterfly yn parhau’n ffyddlon ac yn disgwyl iddo ddychwelyd. Pan mae hi o’r diwedd yn darganfod y gwir, mae’r tor-calon yn ormod iddi, ac mae hi’n cymryd ei bywyd ei hun.
Mae trionglau cariad mewn operâu wedi cipio cynulleidfaoedd ers canrifoedd, boed drwy gomedi megis The Marriage of Figaro neu amgylchiadau mwy trist fel Madam Butterfly a Carmen. Ymunwch â ni ar gyfer opera ysgafngalon, glasurol Mozart yn ystod Tymor y Gwanwyn 2025, bwrlwm o gymhlethdodau cymdeithasol yr 18fed ganrif, gyda swyn a hiwmor, a digwyddiadau clyfar fydd yn eich cipio hyd at y nodyn olaf.