Ym mis Mai, bydd Opera Ieuenctid WNO yn cyflwyno The Pied Piper of Hamelin a The Crab That Played With The Sea yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Mae’r rhaglen ddwbl gyffrous hon wedi’i seilio ar gerdd glasurol Robert Browning a Just So Stories gan Rudyard Kipling, a chyda’r cysylltiad hwn â straeon cofiadwy plentyndod, bydd y perfformiad yn hygyrch i bawb a ddaw i’w weld: o aelodau ifanc y gynulleidfa, i’r ifanc eu hysbryd.
Yn The Pied Piper of Hamelin, mae cerddor hynod yn cynnig achub tref Hamelin rhag pla o lygod mawr trwy ddefnyddio’i gerddoriaeth hud. Ond ar ôl iddo gwblhau ei dasg, mae’r Maer barus yn gwrthod rhoi tâl iddo, ac felly mae’r Pibydd yn hudo plant y dref ar ei ôl. Yn The Crab That Played With The Sea, mae Kipling yn cyflwyno stori’r Cranc a anwybyddodd y rheolau a osodwyd gan greawdwr y Byd, sef gwrando ar ‘ddyn’ ac ufuddhau iddo. Gan herio’r rheolau, daw’r Cranc yn rheolwr ar y môr, ond caiff ei gosbi am ei ymdrechion. Er bod a wnelo’r ddwy stori â materion rhyfeddol a mytholegol, mae’r moeswersi’n dal i fod yn berthnasol i’n bywydau beunyddiol ni. Mae rhybuddion i gadw at ein gair, ynghyd ag ymgais i archwilio unigoliaeth, yn themâu a gaiff eu harchwilio yn ein bywydau ni, boed hynny pan fyddwn yn blant neu’n oedolion, ac maent yn berffaith ar gyfer creu profiad gwych cyntaf o’r byd opera.
Am y tro cyntaf yn hanes Opera Ieuenctid WNO, rydym wedi rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith er mwyn sicrhau y bydd pawb yn cael cyfle i fwynhau’r byd opera. Pleser yw cynnig Teithiau Cyffwrdd cyn y ddau berfformiad ddydd Sul 28 Mai. Bydd y teithiau hyn yn cael eu cynnal awr cyn i’r llenni godi, a’u bwriad yw helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i ymgynefino â’r set, y propiau a’r man perfformio. Mae’r gwasanaeth hwn wedi helpu nifer o bobl i fwynhau agwedd newydd ar y byd opera – agwedd nad oedd ar gael iddynt o’r blaen. Ar ôl archwilio’r set, bydd pawb yn mynd i’w seddi i fwynhau’r perfformiad a bydd Disgrifiad Clywedol ac uwchdeitlau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar gael. Nod y digwyddiadau hyn yw sicrhau bod operâu mor agored a hygyrch â phosibl, yn ogystal â gwneud yn siŵr y caiff pawb gyfle i fwynhau operâu gwych gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i rannu hud y byd opera gyda chynifer o bobl ag y bo modd, ac fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym yn cynnig perfformiadau hygyrch bob Tymor. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein Perfformiadau Hygyrch, yn cynnwys Disgrifiadau Clywedol a Theithiau Cyffwrdd, yma.