Newyddion

Mozart ym Mhobman

13 Ionawr 2023

Mae ambell i aria o'r byd opera mor adnabyddus nes iddynt ymddangos mewn diwylliant ehangach. Mae aria Brenhines y Nos o The Magic Flute gan Mozart, y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn ei pherfformio yn ystod Tymor y Gwanwyn 2023, yn enghraifft berffaith o hyn. P'un a ydych yn gyfarwydd ag opera ai peidio, bydd pawb, fwy neu lai, yn adnabod y darn hwn o gerddoriaeth - mae'r nodau uchel, rhyfeddol a'r graddfeydd blodeuog yn hollol unigryw. Dyma rai o'n hoff enghreifftiau ohoni'n ymddangos yn y diwylliant poblogaidd.

1. House of Gucci

Yn y ffilm hon o 2021, sy'n serenu Lady Gaga ac Adam Driver, mae aria enwog Brenhines y Nos yn cael ei chanu cyn sioe ffasiwn, y mae'r heddlu'n rhoi stop arni. Caiff ei chanu gan Florence Andrews, sy'n chwarae rhan Jenny Gucci - y gantores opera a oedd yn briod i Paolo Gucci.

 2. Amadeus

Iawn, efallai ein bod wedi twyllo ychydig gyda'r enghraifft hon, gan ei fod yn ffilm am Mozart ei hun. Ond ta waeth, cafodd y ffilm effaith ddiwylliannol annisgwyl. Yn yr olygfa hon o Amadeus, mae Mozart (wedi'i bortreadu gan Tom Hulce) yn cael ei ysbrydoli i gyfansoddi adrannau mwyaf adnabyddus a disglair yr aria wrth iddo gael ei feirniadu am fod yn hunanol. Yma, caiff yr aria ei chanu gan June Anderson.

3. Florence Foster Jenkins

Dyma ffilm arall am berson go iawn. Roedd Florence Foster Jenkins yn soprano amatur, wedi'i geni yn 1868. Roedd hi'n bianyddes o fri. Ond yn anffodus, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w gyrfa ar ôl profi anaf i'w braich. O ganlyniad i hynny, penderfynodd fynd amdani yn y byd canu – er nad oedd hi mor fedrus yn y maes hwn. Mae perfformiad Meryl Streep yn y ffilm yn arddangos nodau fflat a thôn anarferol a oedd yn nodweddiadol o recordiadau Florence Foster Jenkins.

4. Kristin

Cyn troi ar theatr gerddorol a pherfformio rolau fel Glinda yn Wicked!, roedd Kristin Chenoweth, sydd wedi ennill Gwobr Tony, wedi hyfforddi fel cantores opera. Mewn pennod o'i rhaglen gomedi Kristin, mae hi'n canu aria Brenhines y Nos wrth i ffrae gychwyn. Mae'r ffrae yn cyd-fynd yn berffaith â'r gerddoriaeth, hyd nes i rywun gael ei ddyrnu ar nodyn uchel anterthol.

5. Llong Ofod y Voyager

Mae aria Brenhines y Nos wedi mentro i'r gofod hyd yn oed. Mae gan y Voyager Golden Records nifer o luniau, synau a darnau o gerddoriaeth ar gyfer unrhyw fywyd estron a allant ddod ar eu traws. Cafodd aria Brenhines y Nos ei chynnwys ar y ddisg. Mae NASA yn dal i fod mewn cyswllt â llongau gofod Voyager, er bod Voyager 1 wedi bod yn teithio ers bron i 45 o flynyddoedd, ac yn 14.5 biliwn o filltiroedd o’r Ddaear erbyn hyn.

Mae cynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o The Magic Flutewedi'i gyfarwyddo gan Daisy Evans, a bydd yn ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth yn ystod ein Tymor y Gwanwyn 2023. Mae'r fersiwn hon, wedi'i hail-ddychmygu, yn cynnwys elfennau o ddiwylliant poblogaidd, yn dod â chlasur Mozart yn fyw i’r byd sydd ohoni heddiw.