Newyddion

May the Fourth be with you

4 Mai 2023

Mae Star Wars, a ddarlledwyd gyntaf ym 1977, wedi swyno calonnau a meddyliau drwy nifer o ffilmiau, rhaglenni teledu a llenyddiaeth. I nodi 4 Mai, a dathlu’r alaeth a greodd George Lucas, rydym yn edrych yn fanwl ar gerddoriaeth anhygoel y ffilmiau a gyrfa’r cyfansoddwr John Williams.

Does fawr o agoriadau ffilm sydd mor hawdd eu hadnabod yn syth â Star Wars. Wrth i’r teitl ‘A long time ago in a galaxy far, far away…’ bylu, rydym yn cael ein cyfarch gan chwythiad cyrn buddugoliaethus wrth i’r gerddorfa ddechrau’r Brif Thema. Mae’r testun melyn yn ymgripio i fyny’r sgrin dros y cefndir o sêr ac fe’n cyflwynir i’r arwyr a dihirod y stori wrth i un o ddarnau cerddoriaeth ffilm fwyaf adnabyddus chwarae.

Enillodd John Williams Wobr Academi am y Sgôr Wreiddiol Orau am ei waith ar y trac sain, ac mae’n parhau i fod y recordiad cerddoriaeth heb fod yn gerddoriaeth bop mwyaf llwyddiannus erioed. Ysbrydolwyd Williams gan The Planets Suite gan Gustav Holst, ac i’r rhai sy’n gyfarwydd â’r gyfres wybrennol glasurol, mae’n hawdd gweld y deyrnged a dalwyd i Mars, the Bringer of War, 1 munud 45 eiliad i mewn i’r Brif Thema. 

Fodd bynnag, nid Star Wars oedd taith gyntaf John Williams i ffuglen wyddonol. Roedd eisoes wedi gweithio â Steven Spielberg, y bu'n cydweithio ag ef am flynyddoedd, ar y ffilm Close Encounters of the Third Kind, ac mae’r cymal tonyddol pum nodyn mae’r tra-ddaearol yn eu defnyddio i gyfathrebu wedi goroesi y tu hwnt i gyrraedd y ffilm. Cyfeirir at eiliadau eiconig o’r ffilm a chânt eu paradïo mewn ffilm a theledu, yn cynnwys Happy Feet, Phineas and Ferb a The Simpsons. Gan ymuno unwaith eto â Spielberg yn dilyn llwyddiant Star Wars, cyflawnodd Williams sgôr emosiynol ET: The Extra-Terrestrial. Drwy adrodd hanes estron wedi ei adael ar y Ddaear ac a gafodd help gan grŵp o ffrindiau ifanc yn ei ymgais i gyrraedd adref, enillodd Williams ei bedwaredd Wobr Academi am ei sgôr.

Yn dilyn gyrfa hynod lwyddiannus drwy gydol yr 80au a’r 90au, gofynnodd Lucas i Williams unwaith eto gyfansoddi sgôr i drioleg raghanes Star Wars. O wneud hyn, ychwanegodd Williams at hanes cerddorol Star Wars, gan newid yr arddull gerddorol o’r hyn yr oedd eisoes wedi ei gyfansoddi. Wedi ei ysbrydoli gan Requiem Verdi, cyflwynodd Williams gyfansoddiad corawl ffyrnig yn y ‘Duel of the Fates’ hynod o boblogaidd. O ganlyniad i’r drioleg raghanes yn cynnwys fersiynau ieuengach o gymeriadau’r drioleg wreiddiol, roedd Williams yn gallu rhagfynegi’r stori o fewn ei sgôr. Enghraifft nodedig yw Anakin’s Theme, sy’n dechrau’n blentynnaidd a dibryder, ond yn gorffen gyda nodau sinistr The Imperial March, nòd i'r ffawd sy’n wynebu’r un ifanc a ddewiswyd.

Os yw dathlu Star Wars a ffuglen wyddonol heddiw wedi eich gadael yn ysu am foment gerddorol arall yn seiliedig ar y gofod, cadwch lygad am Chwarae Opera BYW: Gorymdaith i’r Gofodsy’n agor yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 30 Medi cyn mynd ar daith i Landudno, Bryste, Plymouth, Birmingham a Southampton.  Ond tan hynny, ‘May the Fourth be with you’.